Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru eisoes yn defnyddio’r Gymraeg o fewn y gweithle, boed hynny’n gyfan gwbl neu’n rhannol.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn credu y dylid hybu’r iaith Gymraeg yn y man gwaith yn ogystal ag yn y cartref a’r gymuned.
Gall cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle hefyd arwain at wasanaeth o well safon i gwsmeriaid, a gwneud cyfraniad allweddol i ddatblygu gweithlu sgilgar, hyblyg a hyderus.
Mae’r Bwrdd yn cefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle drwy:
- Hyrwyddo gweithleoedd dwyieithog drwy gytuno cynlluniau iaith sy’n cael dylanwad ar ddefnydd iaith unigolyn yn y gweithle
- Cefnogi prosiectau sydd yn ymwneud â’r gweithle, er enghraifft y Prosiect Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog
- Datblygu a chynnig nwyddau i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
Dogfen Gyngor Hyrwyddo a Hwyluso Gweithleoedd Dwyieithog
Yn Ionawr 2009, cyhoeddodd y Bwrdd ddogfen gyngor:
Hyrwyddo a Hwyluso Gweithleoedd Dwyieithog
Mae’r ddogfen hon yn:
- Cyflwyno safbwynt Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd
- Nodi manteision creu rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
- Trafod y ffactorau sy’n effeithio ar y lefel o Gymraeg sy’n cael ei ddefnyddio mewn gweithleoedd
- Cynnig cyngor ac arweiniad am sut i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd
- Trafod pwysigrwydd arfer da, adeiladu ar sgiliau, gosod amcanion a datblygu personol ac ymwybyddiaeth iaith o fewn y gweithle
Bydd y ddogfen yma’n cael ei hadolygu dros amser yn sgil profiad a chynnydd.
Mae copi o’r ddogfen gyngor ar gael uchod ac mae rhagor o adnoddau a gwybodaeth ar gael yn ‘Cyngor ac Adnoddau’ ac ‘Astudiaethau Achos’ ar y dde.
Cymorth ymarferol ac ariannol
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnig cymorth ymarferol ac ariannol ar gyfer prosiectau gweinyddu mewnol sy’n anelu at gynyddu’r defnydd mewnol o’r Gymraeg.
Mae cynllun 'Gweithleoedd Dwyieithog' yn seiliedig ar y ddogfen gyngor Hyrwyddo a Hwyluso Gweithleoedd Dwyieithog.
Gall unrhyw weithle fod yn gymwys ar gyfer derbyn y cymorth ariannol, ond rhoddir blaenoriaeth i brosiectau fydd yn meithrin newid sylweddol neu arloesol yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Cynhelir proses ymgeisio am arian prosiect yn flynyddol. Darperir y manylion yma cyn ac yn ystod y cyfnod ymgeisio.