'Rydym wedi rhoi rhestr o'r ugain enw mwyaf poblogaidd ar gyfer bechgyn a genethod at ei gilydd, gydag eglurhad o'r enw, ynghyd a chyfieithiad Saesneg os oes un ar gael.
ENWAU BECHGYN:
RHYS
Roedd Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys) yn arglwydd de orllewin Cymru yn y ddeuddegfed ganrif. Rees neu Rice yw'r cyfieithiad Saesneg.
DYLAN
Dylan oedd enw mab Arianrhod, a brawd Lleu Llaw Gyffes ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi. Ar ôl ei enedigaeth, aeth yn syth i'r môr, a chafodd yr enw Dylan Eil Ton.
TOMOS
'Roedd Tomos yn un o ddisgyblion Iesu Grist. Thomas yw'r enw Saesneg.
IEUAN
Daw'r enw Ieuan o'r Lladin, Iohannes. Evan neu John yw'r cyfieithiadau Saesneg.
DAFYDD
'Roedd Dafydd yn enw poblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Dafydd ap Gwilym oedd bardd enwocaf y cyfnod, ac 'roedd Dafydd ap Gruffudd yn frawd i Lywelyn ein Llyw Olaf, tywysog olaf Cymru. Daw'r enw o'r Hebraeg am ffrind, a David yw'r cyfieithiad Saesneg.
SIÔN
'Roedd Siôn Cent yn fardd yn y bymthegfed ganrif, a Twm Siôn Cati yn gymeriad tebyg i Robin Hood yng Nghymru. John yw Siôn yn Saesneg.
STEFFAN
Daw'r enw Steffan o'r gair Groeg am 'coron'. Steffan oedd y merthyr Cristnogol cyntaf, ac fe ddathlir ei wyl ar 26 Rhagfyr. San Steffan yw'r enw Cymraeg am Westminster. Stephen yw'r enw Saesneg am Steffan.
IWAN
Ffurf ar yr enw Ifan, a ddaw o'r enw Lladin, Iohannes, yw Iwan. John neu Evan yw'r enwau cyfatebol yn Saesneg.
OWAIN
Wedi'i eni'n dda yw ystyr yr enw Owain. 'Roedd Owain Glyndwr yn arwr cenedlaethol ac yn sylfaenydd Senedd diwethaf Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Arweiniodd Owain Glyndwr wrthryfel yn erbyn y Saeson.
ALED
Afon yn Sir Ddinbych yw'r Aled. 'Roedd Tudur Aled yn un o feirdd enwocaf Cymru yn y bymthegfed ganrif.
GARETH
Gallai'r enw 'Gareth' fod yn ffurf ar yr enw 'Geraint'. Geraint oedd arwr y chwedl ganol-oesol, Geraint ac Enid. Mae'n bosibl hefyd mai 'gwaraidd' yw ystyr yr enw.
ELIS
Cyfieithiad o'r enw Saesneg 'Ellis' yw Elis.
CAI
Daw'r enw Cai o'r Lladin, Caius. 'Roedd Cai yn un o farchogion y Brenin Arthur yn y chwedl ganol-oesol, Culhwch ac Olwen, sy'n rhan o'r Mabinogi.
JAC
Cyfieithiad o'r enw Saesneg Jack.
RHODRI
'Roedd Rhodri Mawr yn frenin ar Wynedd, Powys a'r Deheubarth yn y nawfed ganrif.
GETHIN
'Roedd Rhys Gethin yn un o farchogion Owain Glyndwr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
HARRI
Cyfieithiad o'r enw Harry yw Harri, ac mae'n ffurf ar yr enw Henry. Daw'r enw o'r Lladin, Henricus, yn wreiddiol.
MARC
Cyfieithiad o'r enw Saesneg 'Mark' yw Marc.
CARWYN
Golyga'r enw Carwyn 'un a gerir a'i fendithio'.
OSIAN
Roedd Osian yn fardd mewn chwedloniaeth Wyddeleg.
Enwau Merched
MEGAN
Mae'r enw 'Megan' yn ffurf ar yr enw 'Marged' (Margaret).
BETHAN
Ffurf
ar yr enw 'Bet' (Elisabeth) yw 'Bethan'.
BECA
Daw'r enw 'Beca' o'r enw Beiblaidd, Rebeca, ond efallai fod yr enw Beca yn fwy enwog yng Nghymru oherwydd Terfysg Beca, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan fu grwp o ddynion wedi'u gwisgo fel merched yn llosgi tollbyrth yn ne orllewin Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 'Roedd y dynion yn galw'u hunain yn Ferched Beca.
FFION
Daw'r enw Ffion o'r Aeleg, fionn, sy'n golygu pryd golau neu wyn.
LOWRI
Ffurf ar yr enw Saesneg, 'Laura' yw Lowri. Lowri oedd enw mam yr Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
CERYS
Daw'r enw Cerys o'r gair 'caru'. Gallai fod yn ffurf ar yr enw Ceridwen.
CARYS
Daw'r enw Carys o'r gair 'caru' a gallai fod yn ffurf ar yr enw Ceridwen.
RHIANNON
'Roedd Rhiannon yn wraig i Pwyll ac yn fam i Pryderi yn y gainc gyntaf ym Medair Cainc y Mabinogi, Pwyll Pendefig Dyfed. Efallai bod yr enw'n dod yn wreiddiol o'r enw Rigantona, a oedd yn dduwies Geltaidd.
NIA
Daeth yr enw Nia yn boblogaidd yn dilyn llwyddiant awdl delynegol T Gwynn Jones, Tir na n-Og, a gyhoeddwyd yn 1916. Mae'r awdl yn seiliedig ar hen chwedl Wyddeleg, lle mae'r bardd Osian yn syrthio mewn cariad gyda Nia Ben Aur.
CATRIN
Mae'r enw Catrin yn ffurf ar yr enw 'Catherine' a ddaw'n wreiddiol o'r Almaeneg ac yna'r Lladin.
ANGHARAD
'Un a gerir lawer iawn' yw ystyr yr enw Angharad. Angharad oedd enw mam Gerallt Gymro, un o'r llenorion Lladin enwocaf o Gymru yn y ddeuddegfed ganrif, ac Angharad hefyd oedd enw gwraig Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd yn y ddeuddegfed ganrif.
ELIN
Ffurf ar yr enw 'Elen' neu 'Helen' yw Elin. Daw o'r gair Groeg am 'un disglair iawn'.
RHIAN
'Morwyn' yw ystyr yr enw Rhian
ELENOR
Ffurf ar yr enw 'Eleanor' yw Elenor.
ERIN
Erin yw un o'r geiriau Cymraeg am Iwerddon
SIAN
Jane yw'r enw Saesneg am Siân.
SIONED
Ffurf ar yr enw Siân yw Sioned. Janet yw'r cyfieithiad Saesneg
ALYS
Daw Alys o'r enw Alice, sy'n enw Saesneg ond o'r iaith Almaeneg yn wreiddiol.
CERI
Gall Ceri fod yn enw ar fachgen neu ferch. Mae'r pentref Porth Ceri yn agos at y Barri ym Mro Morgannwg, ac mae Ceri hefyd yn enw ar afon yng Ngheredigion.