Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae gofyn i gyrff cyhoeddus baratoi cynlluniau iaith sy'n nodi sut fyddant yn gweithredu’r egwyddor o drin y ddwy iaith yn gyfartal i'r graddau y mae hynny yn 'briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol'.
Nid yw cyrff y trydydd sector yn dod yn uniongyrchol o dan y Ddeddf ond mae llawer ohonynt eisoes yn cydnabod bod cynnig gwasanaeth yn newis iaith y defnyddiwr yn rhan annatod o arfer da ac o gyfle cyfartal.
Serch hynny, gall rhai mudiadau trydydd sector gael eu heffeithio gan y Ddeddf. Er enghraifft os yw mudiad y trydydd sector yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ar ran corff cyhoeddus, bydd disgwyl iddo weithredu'r rhannau perthnasol o Gynllun Iaith y corff cyhoeddus hwnnw. Yn y cyd-destun hwnnw, dylai cyrff cyhoeddus sydd â chynlluniau iaith Cymraeg fynnu bod eu cyflenwyr o'r trydydd sector yn darparu yn unol â'u Cynlluniau Iaith.