Cred y Bwrdd bod mabwysiadu cynlluniau neu bolisïau iaith gwirfoddol yn ddull gwerthfawr wrth gynllunio a datblygu gwasanaethau dwyieithog. Yn ystod y 90au bu'r Bwrdd yn ariannu prosiect datblygu iaith wedi ei leoli yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Un o ddeilliannau'r prosiect hwn oedd cyhoeddi O'n Gwirfodd, sef canllawiau arferion da ar gyfer datblygu defnyddio'r Gymraeg a chynlluniau iaith yn y trydydd sector. Gyda chydweithrediad y CGGC, mae'r canllawiau hyn bellach wedi eu hail lansio ar ffurf CD ROM.
Mae'r Bwrdd yn awyddus i helpu unrhyw gorff y trydydd sy'n awyddus i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg. Serch hynny, gan fod y sector mor eang, bydd angen inni flaenoriaethu cyrff. Byddwn yn gwneud hyn yn unol a’r rhestr isod:
· cyrff sy'n gweithio ar lefel gymunedol gyda chyswllt agos â'r cyhoedd.
· cyrff mawr amlwg sydd â phroffil uchel yng Nghymru.
· cyrff sy'n gweithredu mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg.
· cyrff sy'n darparu gwasanaethau gofal ac iechyd.
· cyrff sy'n derbyn cyllid cyhoeddus sylweddol.
· cyrff sy'n comisiynu, rheoleiddio ac ariannu gwasanaethau gan gyrff y trydydd sector.
Oherwydd natur amrywiol y sector mae'n bwysig cydnabod nad yw pob mudiad yn dymuno, nac mewn sefyllfa i greu Cynllun Iaith ac efallai bydd datblygu Polisi Iaith sydd yn llai ymrwymol yn fwy addas. Serch hynny, byddwn am ddatblygu perthynas agos â'r cyrff hyn fel y gallwn eu cynghori o ran cynyddu'r defnyddio'r Gymraeg.