Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cyngor i gyrff gwirfoddol 

 

Cyrff Gwirfoddol a Deddf yr Iaith Gymraeg

Nid yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd gyfreithiol uniongyrchol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg ar fudiadau gwirfoddol, ond mae goblygiadau i'r sector mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, rhaid i fudiadau preifat neu wirfoddol sy'n darparu gwasanaethau gofal neu bersonol arall ar ran cyrff statudol (fel cynghorau lleol neu ymddiriedolaethau iechyd) ddilyn gofynion cynllun iaith y corff hwnnw.

Er nad yw’n ofyniad statudol i gyrff gwirfoddol fabwysiadu Cynllun Iaith, mae nifer o gyrff gwirfoddol wedi mynd ati i baratoi a gweithredu Cynllun Iaith. Mae nifer o resymau dros wneud hyn:

  • Mae’n cynnig gwell gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg.
  • Mae’n cydnabod natur ddwyieithog Cymru.
  • Mae’n hwyluso mynediad i weithgareddau.
  • Mae’n codi delwedd Gymreig y mudiad ac yn cydnabod perchnogaeth gan y Cymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.
  • Mae’n cryfhau apêl y mudiad.
  • Mae’n galluogi’r mudiad i ddarparu gwasanaethau effeithiol.
  • Mae’n cryfhau apêl y mudiad wrth godi arian.
  • Mae’n sicrhau fod y mudiad yn cydymffurfio â gofynion ieithyddol a diwylliannol deddfwriaethau eraill.
  • Mae’n arddangos ewyllys da.
  • Mae’n fodd o ddenu gwirfoddolwyr Cymraeg.
  • Mae mabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg yn arfer da ac yn rhan o bolisïau cydraddoldeb a gofal cwsmer ehangach nifer o gyrff gwirfoddol.

Sut mae paratoi Cynllun Iaith?

Yn 2006 mae CGGC mewn partneriaeth a Bwrdd yr laith Gymraeg wedi diweddaru 'O'n Gwirfodd - Canllawiau Arfer Da' (gweler ochr dde'r dudalen). Cyhoeddwyd y canllaw ym 1996 yn wreiddiol i gynnig cymorth i fudiadau gwirfoddol bach a mawr ar ddatblygu cynlluniau iaith Gymraeg. Mae’r gyfrol newydd hon yn ganllaw ymarferol i greu polisi iaith Gymraeg weithredol i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. 

Er mwyn cymryd y camau nesaf tuag at gymeradwyo eich cynllun iaith neu am unrhyw gyngor ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog, cysylltwch â Swyddog Sector Gwirfoddol Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Enghreifftiau o Gynlluniau Iaith Gwirfoddol

Gweler ochr dde'r sgrîn am enghreifftiau o Gynlluniau Iaith Gwirfoddol.

 



 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd