Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Cyngor i Gyrff Cyhoeddus 

Cyrff Cyhoeddus a Deddf yr Iaith Gymraeg

 

Cynllun Iaith Cyngor Sir CaerdyddMae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn nodi camau pendant i'w dilyn gan y Bwrdd a chan gyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau iechyd ac asiantaethau'r llywodraeth - yn cynnwys sefydliadau y tu allan i Gymru sy'n darparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru - wrth fynd ati i baratoi Cynlluniau Iaith Gymraeg. Pwrpas Cynllun Iaith yw dweud pa wasanaethau Cymraeg fydd yn cael eu darparu, a sut a phryd y byddant ar gael. 

Cyn i Gynllun Iaith gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd, rhaid iddo fynd trwy gyfnod o ymgynghori cyhoeddus. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn rhan o'r broses gymeradwyo.

Bydd gweithrediad y Cynlluniau yn cael ei arolygu gan y corff ei hunan a chan y Bwrdd. Disgwylir i gyrff baratoi adroddiad blynyddol i ddangos cynnydd, a bydd y Bwrdd yn cynnal adolygiad llawnach o'r Cynllun a'i weithrediad ar ol 3-4 blynedd, fel arfer. Bydd y Bwrdd hefyd yn comisiynu ciparolygon ac astudiaethau llawnach yn achlysurol i asesu llwyddiant y Cynlluniau Iaith ac ansawdd y gwasanaeth Cymraeg a gynigir.

Beth yw Cynllun Iaith Gymraeg? 

Yn syml, mae Cynllun Iaith yn ddogfen sy'n golygu bod siaradwyr Cymraeg yn gallu derbyn gwasanaethau cyhoeddus yn Cynllun Iait Gwasanaeth Tân De Cymrueu dewis iaith yn ddi-ffwdan, yn union fel mae siaradwyr Saesneg yn ei wneud.

Yn ogystal, mae Cynllun Iaith yn amlinellu sut y bydd corff cyhoeddus yn ystyried y dimensiwn ieithyddol i’w swyddogaethau cyhoeddus gan sicrhau bod eu gwaith yn hwyluso cydraddoldeb ieithyddol heb danseilio sefyllfa’r Gymraeg.

Mae Cynlluniau Iaith yn sicrhau bod gwasanaethau fel y canlynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg, yn ôl dewis iaith yr unigolyn:
• gwneud cais am basbort neu drwydded yrru
• derbyn gwasanaeth iechyd
• delio â materion Treth ar Werth neu dreth incwm
• ffonio llinellau cymorth
• derbyn cyngor ar fudd-daliadau neu mewn Canolfan Gwaith
• derbyn gwybodaeth gan gyngor lleol

Paratoi Cynllun Iaith Gymraeg

Mae’r Canllawiau Statudol ‘Cynlluniau Iaith Gymraeg – Eu paratoi a’u cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993’ yn amlinellu’r hyn sydd angen ei gynnwys o fewn Cynllun Iaith Gymraeg. Mae’r ddogfen hefyd yn rhoi arweiniad o ran y broses o fynd ati i baratoi Cynllun. Cliciwch ar y ddolen gyswllt ar ochr dde'r dudalen i agor y ddogfen.
O ran cynnwys, dylai’r cynllun bennu’r mesurau y bwriada’r sefydliad eu cymryd er mwyn gweithredu’r egwyddor o gydraddoldeb a osodir yn adran 5 y Ddeddf, a’r ffordd y bwriada’r sefydliad weithredu pob mesur. Mae crynodeb o'r mesurau y mae angen eu cynnwys mewn Cynllun Iaith Gymraeg hefyd ar gael.

Cymorth pellach wrth baratoi:
Yn ogystal â’r Canllawiau Statudol, mae’r Bwrdd wedi paratoi’r dogfennau arweiniol canlynol (gweler y dolenni cyswllt ar ochr dde'r dudalen):
Cynllun Safonol Cynghorau Tref a Chymuned: Cynllun templed i’w addasu a’i fabwysiadau gan Gynghorau Tref a Chymuned; a Ffrâm Addysg Bellach ac Uwch: Ffrâm atodol ar gyfer Cyrff Addysg Bellach ac Uwch sy'n paratoi Cynllun Iaith.

Dulliau Ymgynghori
Wedi i’r corff a’r Bwrdd gytuno ar Gynllun Iaith drafft, fel arfer, mae'r drafft hwnnw'n mynd trwy gyfnod o ymgynghori cyhoeddus, cyn i'r Bwrdd ei gymeradwyo. Mae canlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses gymeradwyo.

Monitro Cynlluniau Iaith Gymraeg

Bydd gweithrediad Cynlluniau Iaith yn cael ei arolygu gan y corff ei hunan a chan y Bwrdd. Bydd y Cyrff yn paratoi adroddiadau cynnydd blynyddol a fydd yn cael eu hystyried gan Gyngor neu Fwrdd Llywodraethol y corff cyn cael eu cyflwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r Ffrâm Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhoi arweiniad ar yr agweddau y mae angen eu harolygu ynghyd ag awgrymiadau o ran systemau monitro y gellid eu mabwysiadu. Mae'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiadau hyn ynghyd ag unrhyw dystiolaeth bellach ddaeth i law gan y cyhoedd ac eraill. Mae'r Bwrdd hefyd yn comisiynu arolygon annibynnol achlysurol o safbwynt y defnyddiwr, i asesu llwyddiant y Cynlluniau Iaith.

Ar ôl cyfnod o weithredu’r Cynllun Iaith, (3-4 mlynedd fel arfer), fe ddaw'n amser gwerthuso perfformiad y corff a diwygio'r Cynllun Iaith. Bryd hynny bydd y corff a'r Bwrdd yn cynnal adolygiad llawnach o'r Cynllun a'i weithrediad gyda'r bwriad i adolygu a diweddaru'r Cynllun Iaith.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.