Nod y gronfa hon yw i ysgogi a hwyluso mudiadau trydydd sector i weithredu mentrau newydd blaengar er mwyn datblygu arferion da mewn dwyieithrwydd, deuddiwyllianedd a'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Credwn, oherwydd ei waith canmoladwy a'i hygrededd yn y maes, mai Estyn Llaw yw'r cerbyd mwyaf addas a phriodol i weithredu'r Gronfa Ddatblygu hon.
Bydd mudiadau penodol sydd wedi derbyn cymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer eu cynlluniau iaith Gymraeg gwirfoddol yn derbyn gwahoddiad i geisio am gyllid o’r Gronfa Ddatblygu. Bydd swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Estyn Llaw yn trafod y ceisiadau ac yn gweithio gyda’r mudiadau llwyddiannus i ddatblygu gweithgareddau arloesol.