Mae gwybodaeth ymarferol am iaith yn sgil – yn sgil ddefnyddiol ar gyfer swyddogaethau penodol – a dylid ei hystyried felly yn yr un modd â sgiliau cyflogi eraill megis:
Sgiliau personol,
Technoleg gwybodaeth,
Gwybodaeth arbenigol.
Mae angen sgiliau penodol mewn swyddi penodol mewn amgylchiadau penodol. Weithiau mae sgiliau yn fanteisiol, weithiau'n hanfodol ac weithiau'n amherthnasol. Felly hefyd gyda'r Gymraeg.