Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Sut mae cynllunio darpariaeth ieithyddol o fewn corff? 

Yn gyffredinol, gellir meddwl am gynllunio darpariaeth ieithyddol o fewn corff yng nghyd-destun y broses barhaol canlynol:

1. Arolygu 2. Cynllunio 3. Gweithredu 4. Gwerthuso

Cam 1 – Arolygu

Y cam cyntaf yw arolygu'r sefyllfa bresennol ac adnabod anghenion datblygu'r mudiad. Rhaid ceisio darganfod gwybodaeth am y canlynol:

1) Pa wasanaeth a gyflawnir yn ddwyieithog ar hyn o bryd?
2) Delwedd gyhoeddus y mudiad.
3) Sgiliau iaith presennol staff a gwirfoddolwyr.
4) Lefel ymwybyddiaeth iaith staff a gwirfoddolwyr.
5) Cynulleidfa darged y mudiad.
6) Y cyfran o ddefnyddwyr Cymraeg.
7) Y cyfran o weithwyr Cymraeg.
8) Ystod daearyddol y mudiad.
9) Potensial i ddenu defnyddwyr a gwirfoddolwyr newydd.
10) Cydnawsedd â phartneriaid a chyllidwyr priodol.
O adolygu'r agweddau uchod gall y mudiad benderfynu pa gamau priodol sydd angen eu cymryd er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog digonol.

Cam 2 – Cynllunio

Ar ôl arolygu ac adnabod yr anghenion datblygu bydd angen i'r mudiad gynllunio ar gyfer eu cyflawni. Gellir cynllunio ar gyfer:

1) Adnabod anghenion hyfforddi.
2) Adnabod anghenion cefnogol.
3) Adnabod mesurau gweithredol.
4) Pennu targedau cyflawni ac amserlen
5) Sicrhau adnoddau
6) Ymgynghori
7) Sefydlu systemau cefnogi
8) Sicrhau perchnogaeth eang.

Cam 3 – Gweithredu

Wrth ddechrau gweithredu'r mesurau mae'n hollbwysig fod:

1) Pawb yn y mudiad yn deall goblygiadau'r cynllun i'w gwaith beunyddiol ac yn arddel eu cyfrifoldebau.
2) Cefnogaeth gadarn yn cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr.
3) Systemau monitro pwrpasol wedi'u sefydlu.

Cam 4 – Gwerthuso

Ar ôl cyfnod o weithredu mae'n bwysig gwerthuso'r cynllun yn erbyn:

1) Targedau amser a osodwyd yn y cynllun
2) Safonau ansawdd ac effeithiolrwydd y cynllun
3) Unrhyw newidiadau mewn disgwyliadau neu ddefnydd gan y defnyddwyr.

Ar ôl gwerthuso mae'r cylch yn dychwelyd eto i arolygu'r sefyllfa, cynllunio unrhyw newidiadau, eu gweithredu, eu gwerthuso ac yn y blaen....


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd