Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Sut mae canlyniadau 2001 yn cymharu â chanlyniadau 1991? 

Roedd 582,368 (20.8%) o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2001 i'w gymharu â 508,098 (18.7%) yn 1991.

Caerdydd oedd â'r cynnydd mwyaf yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg – i fyny 14,415. Tor-faen oedd â'r cynnydd mwyaf yn y ganran o siaradwyr Cymraeg rhwng 1991 a 2001, i fyny o 2.5% yn 1991 i 11.1% yn 2001 – cynnydd o 8.7 pwynt canran.

Am y trydydd tro yn olynol dangosodd canlyniadau cyfrifiad 2001 cynydd yn y nifer o bobl ifanc oedd yn medru siarad Cymraeg. Roedd dros 26% o bobl o dan 35 yn gallu siarad Cymraeg – cynnydd o bron 9 pwynt canran ers 1991.

Roedd gostyngiad o 5,025 yn y nifer a allai siarad Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, a gostyngiad o 7.1 pwynt canran a allai siarad Cymraeg yng Ngheredigion – i lawr o 59.1% yn 1991 i 52.0% yn 2001. Fodd bynnag bu cynnydd o 1891 yn y niferoedd a allai siarad Cymraeg yng Ngheredigion.

Roedd gostyngiad yn y nifer o adrannau etholiadol gyda mwy na 80% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Roedd yna 32 ward o'r fath yn 1991 ond 18 adran etholiadol yn unig erbyn 2001.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd