Sut alla i helpu fy mhlentyn i wneud yn fawr o’r cyfle i siarad Cymraeg?
Mae’n holl bwysig eich bod yn cefnogi addysg a datblygiad ieithyddol eich plentyn.
Os ydych chi’n siarad Cymraeg, gallwch:
- ddarllen gyda’ch plentyn, a gwrando ar eich plentyn yn darllen
- siarad am bob math o bynciau – mae hyn yn help i wella geirfa
- dangos diddordeb mewn tasgau gwaith cartref, a chynnig help llaw os oes angen – ond heb ei wneud dros eich plentyn wrth gwrs!
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi sefydlu Llinell Cefnogi Gwaith Cartref. Am gymorth gyda geiriau neu dermau Cymraeg, neu am wybodaeth am lyfrau neu wefannau Cymraeg, gallwch:
· Ffonio 0871 230 0029
· Tecstio 0779 780 5607
· E-bostio post@gwaithcartref.com
(Llinellau ar agor Sul - Gwener 3:00pm – 9:00pm)
Rhowch gyfle i’ch plentyn wylio rhaglenni Cymraeg ar S4C. Mae rhaglenni gwych i blant bach ar Cyw.
Cofiwch hefyd am fanteisio ar y cyfleoedd i’ch plentyn ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol. Am fanylion gweithgareddau yn eich ardal leol ewch i www.urdd.org neu www.mentrau-iaith.com