Agorwyd yr ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg cyntaf i gael ei hariannu o bwrs y wlad yn Llanelli yn y flwyddyn 1947. Cyn hyn sefydlwyd ysgol breifat cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth yn 1939.
Yn 1956 sefydlwyd Ysgol Glan Clwyd yng Ngogledd Cymru. Dyma'r Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf. Agorwyd yr ysgol yn y Rhyl ac yna fe symudodd i Lanelwy.