Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Pryd ddylai plentyn ddechrau darllen mewn ail iaith? 

Mae darllen yn dechrau yn y flwyddyn gyntaf. Os oes deunyddiau ar gael yn y ddwy iaith i'r plentyn eu dal a thaflu cipolwg arnynt, ac os yw llyfrau'n cael eu darllen i'r plentyn yn y ddwy iaith, mae daulythrennedd yn cael ei annog cyn i'r plentyn ddechrau datgodio geiriau ar y dudalen. Mae plentyn yn dechrau mwynhau llyfrau yn ei flwyddyn gyntaf. Wrth i blant gyrraedd blynyddoedd oed meithrin, maent yn mwynhau llyfrau fwyfwy, mae eu chwilfrydedd yn tyfu ac maent yn dechrau bodio llyfrau fwyfwy. Erbyn pedair i saith oed, mae plentyn fel arfer yn dechrau darllen mewn un iaith, dwy yn achlysurol.

Yn ystod y pedair neu bum mlynedd cyntaf, nid oes unrhyw reswm pan na ddylai llyfrau fod ar gael i'r plentyn yn y ddwy iaith. Os yw'r rhieni yn penderfynu annog darllen mewn dwy iaith ar yr un pryd, bydd hyn yn aml yn digwydd o gwmpas pedair i chwech oed. Ar y llaw arall, os yw'r rhieni yn penderfynu cyflwyno un iaith yn gyntaf ar gyfer darllen, gellir cyflwyno'r ail iaith o gwmpas saith oed neu wedyn.

Nod y strategaeth ddilyniannol hon yw annog plant i ddarllen mewn un iaith yn gyntaf ac i deimlo cymhwysedd cynyddol wrth ddarllen. Pan fo plant yn dechrau darllen ar eu pen eu hunain, maent i'w gweld yn gallu dechrau darllen mewn ail iaith neu ddechrau ysgrifennu mewn gwyddor arall. Y ffactor allweddol yw bod yn rhaid i ddarllen ac ysgrifennu fod yn bleser i'r plentyn. Mae'n bwysig meithrin agwedd gadarnhaol dymor-hir at lyfrau a darllen o'r dechrau.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd