Mae defnydd o'r Gymraeg wedi cynyddu llawer yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf gyda sefydliadau ar draws pob sector yn awyddus i ddatblygu polisïau a gwasanaethau dwyieithog.
Mae'r Bwrdd wedi ymateb i'r angen cynyddol hwn am gyngor a gwybodaeth drwy gyhoeddi llyfrynnau, canllawiau a thaflenni o bob math. Ein nod yw ei gwneud yn hawdd i unrhyw un sicrhau copi o'n cyhoeddiadau, ac er mwyn hwyluso hynny, mae copïau o'n holl gyhoeddiadau cyfredol ar gael ar y wefan.
Yn ogystal, mae'r Bwrdd yn dosbarthu copïau o'r holl gyhoeddiadau sydd ar gael mewn arddangosfeydd, Eisteddfodau, sioeau a chyfarfodydd cyhoeddus ym mhob rhan o Gymru trwy gydol y flwyddyn.
Cofiwch hefyd am y Llinell Gyswllt â'r Gymraeg – 0845 607 6070 – os oes gennych unrhyw ymholiad neu gwestiwn am y Gymraeg a Chymru. Y cyfan am bris galwad ffôn lleol.