Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Oes yna 'oed allweddol' pan na ddylai plant gael eu symud i ysgol sydd â phatrwm iaith gwahanol yn y cwricwlwm? 

Oed allweddol yw pan nad yw agwedd o ddatblygiad ond yn gallu digwydd ar un adeg yn oes person (fel arfer yn gynnar iawn). Yn y 1960au, roedd trafodaeth am blastigrwydd yr ymennydd. Roedd un safbwynt yn awgrymu bod cyfnod allweddol penodol mewn plant ifanc pryd y gall iaith ddatblygu'n rhwydd. Ers hynny mae ymchwil wedi awgrymu nad oes unrhyw gyfnodau allweddol yn natblygiad ieithyddol plentyn. Mae cynnydd mewn iaith yn bosibl yn ddiweddar mewn bywyd os nad yw wedi digwydd yn gynharach. Gellir caffael ail iaith yn llwyddiannus o'r crud neu ar ôl ymddeol.

Fodd bynnag, ceir cyfnodau manteisiol yn aml. Mae manteision o ran ynganiad o gaffael ail iaith yn gynnar iawn mewn bywyd. Mae datblygu ail iaith yn yr ysgol gynradd yn fanteisiol, gan roi sylfaen gynnar a llawer mwy o flynyddoedd i ddod i'r iaith honno aeddfedu. Yn ystod blynyddoedd cynnar addysg, caffael ail iaith y mae plentyn yn hytrach na'i dysgu. Mae'r fath gyfnodau manteisiol yn digwydd pan yw'n fwy tebygol y bydd iaith yn cael ei chaffael oherwydd amgylchiadau, yr amser sydd ar gael, adnoddau addysgu a symbyliad.

Mae'r cwestiwn yn dangos penderfyniad pwysig i rieni sy'n symud i ardal ddaearyddol wahanol. Mae plant yn amrywio'n sylweddol yn eu gallu i ymaddasu i amgylchedd ieithyddol newydd, ac yn eu symbyliad a'u hagwedd at godi iaith newydd yn gyflym. Mae maint ac ansawdd yr ymarfer sydd ar gael yn yr iaith newydd yn yr ysgol a'r tu allan hefyd yn amrywio. Fodd bynnag, fel canllaw bras, a chyda llawer o blant yn eithriadau i hyn, dyma awgrym. Hyd at saith oed, nid yw'n ymddangos bod llawer o broblem i blant ymaddasu'n gyflym i amgylchedd iaith newydd yn yr ysgol. Mae'r iaith a ddefnyddir yn y dosbarth yn adran y babanod yn tueddu i fod yn gymharol syml a phlaen, ac mae plant yn ei chaffael yn weddol gyflym. Mewn dosbarth babanod ceir gwaith prosiect, digon o ystumiau a chwarae rhan a digon o ryngweithio gyda phlant eraill, sy'n galluogi plant i gaffael iaith newydd yn gymharol gyflym.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd