Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Nid yw fy mhlentyn yn ymarfer siarad un o'i ieithoedd y tu allan i'r teulu. Beth ddylwn i ei wneud? 

Pan na ddefnyddir un iaith yn y gymuned, efallai mai yn y cartref y mae'r unig ffynhonnell gyson ar gyfer ymarfer yr iaith. Yn y sefyllfa hon, mae angen i'r rhieni ystyried sut i sefydlu cyfoeth o brofiad ieithyddol i'w plentyn yn yr iaith honno. Er mwyn i iaith y plentyn ymestyn y tu hwnt i fwyd, amser gwely a gorchwylion teuluol, mae'n bwysig trefnu profiadau ieithyddol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Mae angen datblygu geirfa newydd ynghyd â dealltwriaeth ehangach a dyfnach o'r ystyron y mae geiriau yn eu rhannu. Mae defnydd priodol o iaith mewn sefyllfaoedd gwahanol, cynnal sgwrs hir, ynganiad, ymwybyddiaeth o iaith a chariad ati a chywirdeb o ran strwythur gramadegol i gyd yn cael eu gwella pan fo ffiniau ieithyddol yn cael eu hymestyn yn ddi baid. Mae ymweliadau â'r traeth, y banc a siopau llyfrau, y pwll nofio a digwyddiadau chwaraeon, yn golygu bod profiadau newydd yn ysgogi twf iaith. Mae cwrdd â phobl wahanol sy'n medru'r iaith yn rhoi profiad o wahanol ffyrdd o siarad a gwahanol ynganiad i'r plentyn eu cymryd i mewn. Bydd cael casetiau (neu gall y rhieni greu eu tapiau eu hunain o straeon teuluol a hen draddodiadau), tapiau fideo, llyfrau a chylchgronau o'r famwlad yn rhoi cyfle i ymestyn profiad ieithyddol y plentyn. Bydd gwrando ar rigymau, caneuon, jôcs a dywediadau doeth yn yr iaith gartref yn fuddiol iawn i ddatblygiad ieithyddol y plentyn.

Mae'r enghreifftiau uchod yn pwysleisio bod yn rhaid i gyfoeth profiad ieithyddol beidio â dod yn ‘waith cartref'. Mae ymarfer iaith yn golygu cymryd rhan mewn rhywbeth pleserus, nid driliau diflas; ysbrydoliaeth yn hytrach na llafur; her symbylol yn hytrach na rhywbeth wedi'i orfodi.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd