Mae fy mhlant yn gallu siarad dwy iaith. Sut gallaf i eu helpu i berthyn i ddau ddiwylliant?
Ar un ystyr, mae dim ond siarad iaith â phlentyn yn cyfleu diwylliant i'r plentyn hwnnw. Ynghlwm wrth ystyr geiriau ac ymadroddion mae yna ddiwylliant bob amser. Trwy iaith, mae plentyn yn dysgu ffordd o fyw, ffyrdd o weld a threfnu profiad, ffyrdd o ragweld y byd, ffurfiau ar berthnasau cymdeithasol, rheolau a chonfensiynau ynghylch ymddygiad, gwerthoedd moesol a delfrydau, diwylliant gwyddoniaeth a thechnoleg yn ogystal â barddoniaeth, cerddoriaeth a hanes. Mae diwylliant yn cael ei atgynhyrchu yn y plentyn trwy ffrwythloniad a thwf iaith.
Mae llawer o oedolion a phlant sy'n ddwyieithog heb fod yn perthyn i ddau ddiwylliant ieithyddol fel y mae person uniaith yn perthyn i un diwylliant ieithyddol. Gall person sy'n siarad Saesneg a Ffrangeg, er enghraifft, rannu ac uniaethu'n rhannol â'r diwylliant Seisnig ac uniaethu'n rhannol â'r diwylliant Ffrengig. Mae bod yn ddeuddiwylliannol yn wahanol i fod yn ddau berson unddiwylliannol wedi'u gludo at ei gilydd. Mae person dwyieithog yn tueddu i fod yn ddeuddiwylliannol mewn ystyr unigryw. Mae cyfuniad cymhleth ond integredig o'r ddau ddiwylliant y tu mewn i un person. Mae hyn fel dau gylch yn gorgyffwrdd yn hytrach na dau gylch ochr yn ochr.
Gyda gwahaniaethau sylweddol rhwng un person a'r llall, a newidiadau sylweddol dros amser tu mewn i un person, gall unigolyn deimlo'n fwy o Ffrancwr neu'n fwy o Sais, ond heb i'r naill gau allan y llall. Yn y math cymysgryw hwn, mae yna wahanu diwylliannau a hefyd integreiddio, mathau Ffrangeg a Saesneg ar wahân ond eto cyfuniad unigryw.
Trwy gwrdd â siaradwyr eu dwy iaith, ymweld ag amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol – o farchnadoedd i chwaraeon, o gyfarfodydd crefyddol i wyliau gwledig – gall rhieni gyflwyno eu plant i'r diwylliannau sydd ynghlwm wrth bob iaith. Lle nad yw profiad uniongyrchol yn bosibl, mae teledu a thapiau fideo yn caniatáu profiad anuniongyrchol. Os cyflwynir plentyn i'r amrywiaeth mwyaf o ddiwylliannau sy'n mynd gyda phob iaith, gellir ehangu gorwelion y plentyn, datgelu mwy o gyfleoedd a rhai newydd, a rhoi golwg ar y byd lle mae llai o rwystrau a mwy o bontydd.