Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
I sicrhau llwyddiant, a ddylwn i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau fy mhlentyn yn ei iaith gyntaf-yr iaith fwyafrifol? 

Yr ateb cadarnhaol yw bod dwyieithrwydd yn cael ei gysylltu'n ffafriol â llawer o nodau ac amcanion. Mae dwyieithrwydd yn werthfawr i gerddorion, entrepreneuriaid, mabolgampwyr, gweithwyr cwmnïau awyrennau a llawer o feysydd eraill ‘llwyddiant'. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n debyg y bydd gwaith yn galw fwyfwy am sgiliau iaith. Felly yn y tymor hir, gall plant sydd wedi'u magu'n ddwyieithog gael hwb ychwanegol i'w gobaith am swyddi, llwyddiant economaidd a'u cyfle i fod yn gefnog.

I rieni sydd eisiau i'w plant gael sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol, pobl ddwyieithog yn aml yw'r rhai sy'n sensitif ac yn gydymdeimladol wrth gyfathrebu. Gall pobl ddwyieithog ddymchwel rhwystrau a chodi pontydd, ac yn aml maent yn fwy agored eu meddwl am wahaniaethau hil a grŵp ethnig. Nid yw llwyddiant academaidd yn cael ei rwystro fel arfer gan y ffaith bod plentyn yn ddwyieithog. I'r gwrthwyneb, gall arwain at fwy o lwyddiant.

Gall trochi rhywun sy'n siarad iaith leiafrifol yn sydyn yn yr iaith fwyafrifol nid yn unig achosi dryswch seicolegol, mae hefyd yn gwadu'r galluoedd ieithyddol sydd gan y plentyn eisoes. Mae'r galluoedd ieithyddol hyn yn trosglwyddo'n hawdd i'r iaith fwyafrifol. Gellir dysgu'r iaith fwyafrifol yn llwyddiannus ochr yn ochr â'r iaith leiafrifol.

Nid yw cefnogwyr dwyieithrwydd fel arfer yn gwadu pa mor bwysig, yn economaidd, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, yw cymhwysedd da yn yr iaith fwyafrifol. I gystadlu am swyddi, cynnydd economaidd a grym gwleidyddol, yn aml mae galw a gofyn am ruglder yn yr iaith fwyafrifol. Mae amddifadu rhywun o fedrusrwydd yn yr iaith fwyafrifol yn ei amddifadu o gyfle am lwyddiant yn ddiweddarach yn ei oes. Fodd bynnag, mae modd sicrhau medrusrwydd da yn yr iaith fwyafrifol heb golli sgiliau yn yr iaith leiafrifol. Mae dwyieithrwydd fel arfer yn fater o adio ac nid tynnu; lluosi ac nid rhannu.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd