Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Dwi'n rheoli, sut gwna i gyflwyno awyrgylch dwyieithog i'r cwmni-mudiad? 

Mae rheoli mewn amgylchedd dwyieithog yn golygu rheoli mewn amgylchedd sy'n newid. Mewn ymateb i'r cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg yn y byd cyhoeddus mae galw cynyddol ar i fudiadau/cwmnïau gyflwyno newidiadau i'w hamgylchedd a'u harferion allanol a mewnol nhw eu hunain. Rheolwyr sy'n cario'r cyfrifoldeb o dywys y mudiad trwy'r broses yma o newid.

Nid proses hawdd yw newid diwylliant mudiad i cynnwys syniadau ac arferion newydd. Anos efallai yw newid diwylliant iaith mudiad sydd wedi arfer gweithredu mewn ffordd arbennig ers blynyddoedd.

Mae newid o fewn unrhyw gorff yn gallu bod yn boenus ac yn anghyffyrddus. Mae tueddiadau Ceidwadol yn rhai cryf iawn. Mae newid yn golygu gofyn cwestiynau a herio rhagdybiaethau gan chwilio am atebion newydd a'u gweithredu. Mae rhai'n gweld newid fel bygythiad ac yn bryderus yn ei gylch a nid yw eraill yn gweld yr angen.

Tasg y rheolwr yw darbwyllo'r corff na ellir osgoi newid gan ei fod yn hanfodol i lwyddiant. Rhaid cael y corff i gydnabod yr angen am newid a derbyn bod newidiadau yn anochel.

Mae'r broses o gyflwyno newid yn cynnwys y camau canlynol:

1.Osgoi 2.Cydnabod 3.Derbyn 4.Ymgorffori 5.Arfer

Ar hyd y continwwm hwn rhaid cofio y gallwch chi fod ar un cam tra bod eraill o'ch mudiad ar gam arall. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi derbyn yr angen i ddatblygu dwyieithrwydd tra bod eich pencadlys mewn gwlad arall yn anymwybodol o'r amgylchiadau. Ar y llaw arall, efallai eich bod yn teimlo eich hun yn boddi mewn polisïau ac arferion heb fod yn hollol sicr fod yna angen newid.

Gall gwahaniaethau achosi tensiwn sydd angen ei reoli. Bydd hyn yn cynnwys goblygiadau sylweddol i chi fel rheolwr, eich cydweithwyr, gwirfoddolwyr a'r corff ei hun. Eich cyfrifoldeb chi. Fel rheolwr, yw datrys y goblygiadau.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd