A fydd profiad o gyfryngau torfol yn yr iaith fwyafrifol yn effeithio ar ddwyieithrwydd fy mhlentyn?
Mae dwy bryder yma. Yn gyntaf, mae rhai rhieni yn pryderu am yr arlwy ieithyddol y mae teledu, tapiau fideo, y rhyngrwyd, cyfrifiaduron personol, radio, casetiau a chryno-ddisgiau yn ei darparu. Gan fod llawer o blant yn gwylio llawer o deledu, mae derbyn yr iaith fwyafrifol yn oddefol yn gallu effeithio ar sgiliau yn yr iaith leiafrifol a defnydd cynhyrchiol yn yr iaith leiafrifol a'r iaith fwyafrifol fel ei gilydd.
Mae rhai ieithoedd lleiafrifol (a'r rhan fwyaf o ieithoedd ar wahân i'r Saesneg) wedi tueddu i ymateb i arlwy o deledu plant Eingl-Americanaidd trwy gynhyrchu rhaglenni teledu yn yr iaith leiafrifol neu drosleisio cartwnau a ffilmiau plant. Mae hyn i'w ganmol yn fawr. Hefyd, mae'n bwysig bod diwylliant yr iaith leiafrifol yn cael ei ledaenu trwy'r cyfryngau torfol.
Bydd angen i rieni sydd eisiau i'w plant gaffael iaith nad yw'n lleol gael deunydd cyfryngau torfol mor amrywiol â phosibl i'w plant. Mae arlwy o ddeunydd cyfryngau torfol yn yr iaith leiafrifol neu ‘dramor' yn bwysig, nid yn unig i wella cymhwysedd ieithyddol, ond hefyd i awgrymu bod i'r iaith honno statws.
Ar yr un pryd, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod y cyfryngau torfol yn darparu iaith dderbyniedig yn unig. Anaml y bydd y plentyn yn siarad iaith wrth wylio'r teledu neu wrando ar record. Mae recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau sy'n gwahodd plant i gymryd rhan yn fwy gwerthfawr o ran rhoi ymarfer iaith.
Wrth i blant symud trwy ganol eu plentyndod, ac yn enwedig pan gyrhaeddant yr arddegau, yn aml mae yna bwysau tuag at y cyfryngau torfol yn yr iaith drechol, fwyafrifol. Mae eu cyfoedion yn gwrando ar gerddoriaeth bop, ffilmiau a rhaglenni teledu Eingl-Americanaidd statws-uchel. Mae'r delweddau dylanwadol yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod yr arddegau yn dod o'r iaith leiafrifol yn rhy anaml ac yn dod trwy'r iaith Saesneg yn rhy aml. Yn ystod y blynyddoedd hyn, gall dwyieithrwydd plant fod mewn perygl oherwydd eu bod yn cydymffurfio â normau eu cyfoedion sy'n pwysleisio'r diwylliant mwyafrifol.
Mae statws iaith, neu ei delwedd negyddol, yn cael eu codi yn gyflym y tu allan i'r cartref. Pan fo plant yn ymuno â grwpiau yn y stryd, clybiau a thimau, maent yn gweld trefn flaenoriaeth ieithoedd. Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu a'i ymestyn gan y cyfryngau. Felly mae angen i rieni fonitro ac weithiau bod yn greadigol yn eu trefniadau ieithyddol er mwyn sicrhau nad yw'r ymborth iaith yn mynd yn ddi-flas mewn un iaith ac yn wledd yn y llall.
Mae ymchwil yn dangos mai'r plant sy'n cadw eu hiaith leiafrifol yw'r rhai sydd, yn ystod eu harddegau yn enwedig, yn cymryd rhan mewn digwyddiadau allan o oriau'r ysgol yn eu hiaith leiafrifol. Mae ymchwil o Gymru yn awgrymu nad y cyfryngau torfol yn yr iaith fwyafrifol ynddynt eu hunain yw'r bygythiad i'r iaith leiafrifol mewn plant yn eu harddegau. Yn hytrach y symudiad i ffwrdd o'r iaith leiafrifol, a llai o gyfranogi mewn digwyddiadau allan o'r ysgol yn yr iaith leiafrifol, sy'n achosi dirywiad iaith mewn plant yn eu harddegau. Daw diwylliant yr arddegau yn elfen bwysig iawn ym mywyd ieithyddol y person ifanc hwnnw.