Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Beth yw ysgol cyfrwng Cymraeg? 
Mae gwahanol fathau o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi datblygu mewn gwahanol rannau o Gymru.

Y Gymraeg yw’r prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgolion hyn, a’u nod yw meithrin plant sydd â sgiliau ieithyddol addas ar gyfer eu hoedran yn Gymraeg ac yn Saesneg erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd.

Yn gyffredinol, yn y siroedd hynny o Gymru gyda’r garfan uchaf o siaradwyr Cymraeg ceir ysgolion cynradd traddodiadol Gymraeg. Yn aml gelwir y rhain yn ysgolion dwyieithog.

Mewn ardaloedd eraill ceir ysgolion cynradd penodedig Cymraeg.

Yn yr ysgolion Cymraeg a dwyieithog hyn dysgir disgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig yn yr adran fabanod.

Yng Nghyfnod Allweddol 2 mae’r Gymraeg yn parhau fel y prif gyfrwng addysgu. Dysgir Saesneg fel pwnc, yn ogystal â rhai agweddau o bynciau eraill.

Mae’r ffaith fod rhieni’n galw am fwy eto o ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn profi mor llwyddiannus yw’r addysg sydd ar gael ynddyn nhw.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd