Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Beth yw hyfforddiant 'ymwybyddiaeth iaith', a ddylwn ni ystyried hyfforddiant o'r fath? 

Os yw'n rhan o'ch swyddogaeth i ddelio â phobl eraill, mae'n bwysig ein bod yn ymwybodol o natur y cyfrwng rydym yn ei ddefnyddio i gyfathrebu'n feunyddiol ynghyd a'i arwyddocâd a'i effaith ar yr unigolion y cyfathrebwn â nhw. Mae deall hynny hyd yn oed yn bwysicach wrth weithio mewn sefyllfa ddwyieithog.

Byddai hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith yn edrych ar gwestiynau sylfaenol ynglŷn â:

1) Beth yw iaith a sut mae iaith yn gweithio.
2) Iaith a'r unigolyn.
3) Iaith a grym.
4) Iaith a diwylliant.
5) Dwyieithrwydd.
6) Statws ieithoedd.
7) Dewis iaith.
8) Perthynas defnyddwyr ieithoedd gwahanol.

Mae'r lefel o hyfforddiant sydd angen yn amrywio'n fawr. Gall atebwyr ffôn a gweinyddwyr elwa o dderbyn sesiwn hanner diwrnod o hyfforddiant, tra gallai reolwyr a gweithwyr maes dderbyn hyfforddiant dwysach. Waeth ar ba lefel bynnag y cynigir yr hyfforddiant, gall hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith fod yn gyfrwng i agor trafodaeth gadarnhaol ar bynciau sensitif ynghyd ag ateb rhai rhagdybiaethau a rhagfarn.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd