Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol, sy'n cael ei ariannu gan arian cyhoeddus. Ei brif swyddogaeth hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r iaith Gymraeg. Sefydlwyd y Bwrdd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn bennaf i weithredu'r Ddeddf honno. Mae'n gyfrifol am oruchwylio'r broses o baratoi cynlluniau iaith statudol, am eu cymeradwyo ac am fonitro eu gweithrediad.