Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Beth yw’r opsiynau cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg i fy mhlentyn? 

Ers mis Medi 2005, gall plant fynychu sefydliad cyn-ysgol yn rhad ac am ddim y tymor wedi eu pen-blwydd yn 3 oed. Yn unol â dymuniad y rhieni, gall y plentyn fynd i ddosbarth meithrin yr ysgol gynradd leol, grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd neu defnyddio gwarchodwyr plant.

Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM) yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol. Ei nod yw rhoi profiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg i bob plentyn dan oed ysgol. Mae’n darparu ar gyfer plant o gartrefi Cymraeg a chartrefi di-Gymraeg.

Cylchoedd Ti a Fi

Mae Cylchoedd Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni a gwarchodwyr gwrdd unwaith yr wythnos i gymdeithasu, rhannu profiadau, dysgu sgiliau magu plant a datblygiad iaith. Mae’n gyfle hefyd i blant chwarae gyda’i gilydd mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg. Nid oes rhaid i chi na’ch plentyn fedru siarad Cymraeg i ymuno â’r Cylch Ti a Fi lleol.

Bydd croeso i chi ymuno yn y gweithgareddau, ac efallai y byddwch yn dysgu ychydig o Gymraeg yn ystod y cyfnod. Mae rhai Cylchoedd Ti a Fi yn cynnal cyrsiau ‘Cymraeg i’r Teulu’ sy’n cyflwyno storïau, caneuon a hwiangerddi Cymraeg a rhai brawddegau syml i’w defnyddio yn y cartref.

Mae dros 450 o Gylchoedd Ti a Fi ledled Cymru. Cliciwch yma i chwilio am eich Cylch Ti a Fi agosaf.

Cylchoedd Meithrin

Mae Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM) yn cynnal cylchoedd meithrin dyddiol ar gyfer plant rhwng 2 a 5 mlwydd oed. Yn y sesiynau gofal ac addysg hyn mae plant yn dysgu trwy chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn yr oed hwn mae iaith lafar plant yn datblygu’n gyflym iawn ac felly rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygiad iaith yn ogystal â datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol y plant.

Mae tua 550 o gylchoedd ledled Cymru, gyda dros 10,000 o blant yn eu mynychu. Cliciwch yma i chwilio am eich Cylch Ti a Fi agosaf.

« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd