Beth sy'n digwydd os yw neiniau a theidiau a'r teulu estynedig yn gwrthwynebu dwyieithrwydd?
Mae llawer o sefyllfaoedd lle mae i neiniau a theidiau a'r teulu estynedig fudd o ddwyieithrwydd plant. Lle mae'r neiniau a'r teidiau yn byw mewn gwlad arall, er enghraifft, efallai na fydd plentyn uniaith yn gallu cyfathrebu â neiniau a theidiau, ewythrod a modrybedd, cefndryd a perthnasau pell.
Hefyd mae tuedd hanesyddol i gysylltu dwyieithrwydd â deallusrwydd is, tanddatblygiad ieithyddol, problemau hunaniaeth bersonol a thanberfformiad yn yr ysgol. Nid yw ymchwil wedi profi bod yr un o'r cyhuddiadau hyn yn deg nac yn gywir. Serch hynny, mae rhagfarnau ynghylch dwyieithrwydd yn gyffredin o hyd, yn arbennig ymysg pobl uniaith yn y Gorllewin.
Os yw'r gwrthwynebiad wedi'i seilio ar ragfarn, mae angen ei ateb gyda thystiolaeth fwy diweddar sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth. Lle mae pobl ddwyieithog yn cael eu portreadu mewn ffordd negyddol, mae angen mynnu'n glir bod dwyieithrwydd yn tueddu i fod â manteision a'i fod yn codi potensial yr unigolyn.
Mae gwahanol fath o wrthwynebiad yn codi lle mae neiniau a theidiau neu eraill yn teimlo eu bod wedi'u cau allan yn bersonol. Mae ymchwil a thystiolaeth yn annhebyg o effeithio ar y fath deimladau mewnol o ddieithrwch. Felly mae angen i rieni plentyn dwyieithog fod yn drefnwyr cymdeithasol yn ogystal ag ieithyddol. Mae angen esbonio wrth y plentyn a'r neiniau a'r teidiau fel ei gilydd sut orau y gellir hwyluso cyfathrebu. Mae plentyn ifanc yn dod yn syndod o fedrus wrth newid i'r iaith briodol ac mae ganddo lawer i'w ennill o gyfathrebu gyda'i neiniau a'i deidiau yn eu dewis iaith.
Mae angen esboniad ar neiniau a theidiau ac eraill hefyd. Gellir helpu neiniau a theidiau i ddeall manteision dwyieithrwydd i'r plentyn, ei bod yn naturiol i'r plentyn newid rhwng dwy iaith, ac nad oes awgrym o ddiffyg cariad na pharch os siaredir iaith nad yw'r nain a'r taid yn ei deall. Lle mae gwrthwynebiad, mae angen diplomyddiaeth. Mae rhieni a phlant dwyieithog yn aml yn gymharol alluog (o ran iaith ac yn gymdeithasol) i fod yn dringar lle mae gwrthwynebiad. Ychwanegu'n gadarnhaol i brofiadau bywyd y person dwyieithog y mae'r weithred o orfod delio'n dringar ag ieithoedd ynghyd ag ategu ei bortffolio o sgiliau a champau.
Os yw'r nain a'r taid yn byw yn yr un tŷ, stryd neu gymuned, ceir cyfoeth o brofiad ieithyddol a all fod o les i'r plentyn. Mae nain a thaid, ac aelodau eraill y teulu estynedig, yn rhoi cyfle i ddysgu neu ymarfer un iaith. Er enghraifft, os yw'r rhieni yn siarad un iaith gyda'r plentyn ac nid yw'r nain a'r taid yn siarad yr iaith honno, gellir defnyddio'r nain a'r taid (ac aelodau eraill y teulu estynedig) i gyflwyno ac ymestyn ail iaith. Gellir troi eu gwrthwynebiad ar ei ben er mwyn meithrin dwyieithrwydd. Mae'r nain a'r taid yn dod yn batrwm i'r plentyn yn yr ail iaith. Nid yn unig y mae'r plentyn yn dysgu ail iaith, ond gellir cyfleu dywediadau doeth a bachog, rhigymau, caneuon, straeon gwerin a thraddodiadau'r iaith honno i'r genhedlaeth newydd.