Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Beth sy'n digwydd os nad yw rhieni yn cytuno y dylai'r plentyn fod yn ddwyieithog?  

I rai rhieni, mae magu plentyn dwyieithog yn naturiol, ac nid oes rhaid ei drafod. Yn llawer o wledydd y byd, yn aml mae plant dwyieithog, teirieithog ac amlieithog yn arferol yn hytrach nag yn eithriadol. Yn y fath leoedd, does dim byd rhyfedd nac eithriadol am blant dwyieithog. Derbynnir a disgwylir dwyieithrwydd.

Mewn teuluoedd eraill, mae trafodaethau ynghylch yr ieithoedd y dylai'r plentyn gael ei fagu ynddynt yn digwydd cyn ac ar ôl ei eni, yn ystod ei blentyndod a'i arddegau ac unwaith y mae'n oedolyn. Y peth mwyaf cadarnhaol yw bod dwyieithrwydd y plentyn yn cael ei drafod. Yn yr un ffordd ag y mae llawer o rieni yn trafod moesau, arferion gwylio teledu, steiliau gwallt a dillad eu plant, mae iaith hefyd yn faes pwysig i deulu ei ystyried yn agored.

Gall ieithoedd plentyn fod yn rhan o drafodaethau ynghylch patrwm y perthnasau sy'n bodoli yn y teulu, perthnasau gyda neiniau a theidiau ac ewythrod a modrybedd, addysg, rhyngweithio gyda'r gymuned, gwaith yn y dyfodol a'r rhagolygon am swyddi, ac yn bwysig, ynghylch hunan-gysyniad, hunan-barch a hunan-welliant y plentyn. Nid yw trafodaeth ynghylch magu plentyn yn ddwyieithog neu ynteu'n uniaith yn drafodaeth am iaith yn unig. Mae'n ymdrin â'r plentyn cyfan. Mae'n ymdrin â'r ymdeimlad o sicrwydd a statws a fydd gan y plentyn, hunaniaeth y plentyn a'i hunaniaeth gyda chymuned a grŵp ieithyddol.

Pan fo anghytundeb, ystyriwch iaith fel un rhan yn unig o holl ddatblygiad plentyn. Nid yw trafodaeth ynghylch dwyieithrwydd plentyn yn ymdrin â dwy iaith yn unig. Mae'n ymdrin â phersonoliaeth, potensial a phleser cyfnod sicr ac ysgogol mewn plentyndod. Ni all dwyieithrwydd plentyn gael ei ystyried ar ei ben ei hun yn llwyr. Un rhan fawr o jig-so holl ddatblygiad plentyn yw dwyieithrwydd. Mae'r ffordd mae dwyieithrwydd yn ffitio i lun cyfan datblygiad y plentyn yn gofyn am ddeialog rhwng y rhieni.

Os oes anghytundeb yn y teulu, ystyriwch ysgrifennu'r pwyntiau cadarnhaol a negyddol ar ‘fantolen'. Yn hytrach na dadlau ynghylch un neu ddau o bwyntiau a gadael i deimladau reoli, ystyriwch yr amrywiaeth mwyaf o ffactorau a grybwyllir yn y gronfa gwestiynau hon. Mae angen golwg tymor-hir ar ddatblygiad y plentyn. Ystyriwch les y plentyn ac nid dewisiadau tymor-byr y rhieni yn unig. Un perygl yw y gall un rhiant ystyfnigo mewn barn ieithyddol bersonol y mae'n teimlo'n gryf amdani, heb ystyried yn ddigonol beth sydd fwyaf buddiol i'r plentyn.

Ar ôl ystyried, gall rhiant deimlo bod modd aberthu ei farn er lles y plentyn. Er enghraifft, os yw un rhiant yn poeni na all ddeall beth mae'r rhiant arall yn ei ddweud wrth y plentyn yn ei mamiaith, a ddylid aberthu dwyieithrwydd y plentyn oherwydd pryder y rhiant? Gyda diplomyddiaeth, cariad a thrwy weld problemau fel heriau i'w goresgyn, gellir cael atebion a dealltwriaeth. Gall y rhiant yn yr enghraifft hon weld ei bod yn bosibl iddo aberthu deall sgyrsiau rhwng y rhiant arall a'r plentyn er mwyn i'r plentyn ddod yn rhugl ddwyieithog.

Yn gryno, mae angen datrys anghytundebau yn bwyllog ac yn ystyriol. Trafodaeth agored, onest, gadarnhaol ac empathetig yw'r ffordd i'w datrys. Y nod bwysicaf i'w thrafod yw lles tymor-hir y plentyn.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd