Mae gwaith y Bwrdd yn cynnwys: cynnig cyngor a gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r cyhoedd; sicrhau fod cyrff cyhoeddus yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn eu gwasanaethau; cadw gorolwg dros bob agwedd ar addysg a hyfforddiant Cymraeg; annog a chynorthwyo cwmnïau preifat a mudiadau gwirfoddol i ddefnyddio mwy o Gymraeg; dosbarthu grantiau i hyrwyddo a hwyluso defnyddio Cymraeg; a datblygu adnoddau a gwasanaethau sy'n gwneud defnyddio Cymraeg yn haws.