A yw un rhiant yn bwysicach na'r llall yn natblygiad ieithyddol y plentyn?
Yn draddodiadol roedd y fam yn treulio mwy o amser gyda phlentyn, ac felly roedd ei hiaith hi'n dylanwadu'n gryf ar natur datblygiad ieithyddol y plentyn
Mae ymchwil wedi dangos bod llawer o ryngweithio ieithyddol mamau gyda'u plant yn ymdrin â swyddogaethau sylfaenol y cartref (e.e. bwydo, ymolchi, gwisgo, disgyblaeth). Mae tadau'n cael cyfle i chwarae gyda'u plant, sy'n caniatáu cryn ysgogiad ieithyddol. Mae llawer o dadau yn rhyngweithio gyda'u plant mewn ffyrdd plentyn-ganolog. O'r herwydd, mae cyfraniad tad i ddatblygiad ieithyddol plentyn weithiau'n cael ei danbrisio. Felly mae angen i dadau fod yn ymwybodol o'r rhan bwysig y maent yn ei chwarae yn natblygiad ieithyddol plant. Mae amser hamdden wedi cynyddu erbyn hyn. Yn y fath sefyllfaoedd, mae rhan y tad mewn datblygiad ieithyddol wedi dod yn bwysicach.
Mewn rhai teuluoedd (e.e. lle mae un rhiant yn siarad un iaith a'r llall yn siarad iaith arall), mae'r ddau riant yn hybu dwyieithrwydd. Mewn sefyllfa o'r fath, mae angen i dadau a mamau fod yn ymwybodol o'u rhan bwysig yn natblygiad ieithyddol y plentyn. Dylid annog y ddau riant i ymfalchïo yn eu sgyrsiau â'r plentyn, hyd yn oed pan fo'n dal i breblian a chŵan. Hyd yn oed cyn i blentyn ddweud ei air cyntaf, mae'r baban yn codi synau'r ail iaith o'r ddau rhiant. Mae angen i'r ddau rhiant amrywio'r cyd-destunau lle defnyddir iaith er mwyn rhoi i'r plentyn hwnnw brofiad ieithyddol ehangach.
Mae'r ddau rhiant yn dylanwadu ar agweddau'u plant at ieithoedd. Er enghraifft, pa un ai yw'r tad yn gadarnhaol ynteu'n negyddol tuag at ddwyieithrwydd, bydd hynny'n effeithio'n sylweddol ar y plentyn. Os yw'r tad yn amheus o ddwyieithrwydd, neu os nad yw'n hoffi bod y fam yn defnyddio ei hiaith ‘ei hun', bydd y plentyn yn sylwi ar yr awyrgylch negyddol a bydd effaith ar ei ymddygiad ieithyddol. Ar y llaw arall, os yw'r tad yn annog dwyieithrwydd ei blant, yn eu canmol am siarad â'u mam yn ei hiaith ‘ei hun', bydd yr effaith ar hyder ac agweddau ieithyddol y plentyn yn sylweddol.
Un penderfyniad pwysig rhwng rhieni yw pa iaith i'w defnyddio gyda'i gilydd pan bydd y plentyn yn bresennol. Weithiau yr iaith sydd bob amser yn cael ei defnyddio yn y bartneriaeth fydd honno. Ond er mwyn y plentyn, mae angen ystyried sicrhau cydbwysedd bras o fewn y teulu rhwng y ddwy iaith.
Mae parhau profiad o'r iaith leiafrifol o blentyndod cynnar trwy flynyddoedd yr arddegau yn bwysig er mwyn i'r iaith leiafrifol honno oroesi nes bod y plentyn yn oedolyn.
Felly, yr ateb i'r cwestiwn yw bod y ddau riant yn bwysig iawn yn natblygiad ieithyddol y plentyn. Mae angen i'r ddau riant fod yn ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith y mae'r plentyn yn ei chlywed ac yn ei defnyddio gyda phob rhiant.