Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
A yw rhai plant yn ei chael hi'n haws nag eraill i ddod yn ddwyieithog? 

Mae plant yn datblygu ar gyflymderau ychydig yn wahanol yn eu datblygiad ieithyddol dwyieithog. Yn union fel y mae rhai plant yn dysgu cropian a cherdded yn gynt nag eraill, a dweud eu geiriau cyntaf yn gynt nag eraill, felly mae cyflymder datblygiad ieithyddol yn amrywio rhwng plant. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir yn natblygiad dwy iaith.

Dim ond yn rhannol y mae cyflymder caffael iaith yn dibynnu ar allu plentyn. Yn wir, mae rhai plant sy'n troi allan i fod yn alluog iawn yn academaidd yn araf yn eu datblygiad ieithyddol. Fel arfer ychydig o berthynas sydd rhwng pa mor gyflym y mae rhywun yn dysgu siarad un neu ddwy iaith a llwyddiant yn yr ysgol yn y pen draw. Nid yw'r rhai sy'n datblygu'n gynnar o ran iaith yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus fel oedolion – sut bynnag mae llwyddiant yn cael ei ddiffinio.

Mae diddordeb plentyn mewn iaith hefyd yn bwysig ac mae'n rhannol ar wahân i allu a dawn dysgu iaith. Pan yw plentyn yn cael ei annog a'i ysgogi yn ei ddatblygiad ieithyddol, bydd diddordeb mewn darllen, er enghraifft, yn cynyddu. Bydd rhieni sy'n gwrando'n astud ar yr hyn mae'r plentyn yn ei ddweud, yn ateb y plentyn mewn ffordd plentyn-ganolog ac yn gwneud iaith yn hwyl gyda rhigymau a chaneuon, yn tueddu i gynorthwyo datblygiad ieithyddol. Bydd diddordeb plentyn mewn iaith a'i symbyliad i sgwrsio llawer yn effeithio ar gyflymder ei ddatblygiad.

Os yw plant yn cael digon o anogaeth, ymarfer ac amgylchedd ysgogol ar gyfer twf iaith, bydd caffael dwy iaith yn gymharol syml, di-boen a diymdrech iddynt. Mae llawer o blant yn tueddu i adlewyrchu agweddau, ymddygiad, disgwyliadau a chredoau eu rhieni. Mae rhiant cadarnhaol yn tueddu i fagu plentyn llwyddiannus. Mae rhieni sy'n disgwyl methiant yn tueddu i fagu llai o lwyddiant. Mae hyn yn arbennig o wir am ddatblygiad dwyieithog plentyn.

Mae yna lawer o rwystrau, ond ychydig ohonynt sy'n ddigon mawr i atal plant rhag cyrraedd pa bynnag gyrchfan ieithyddol ddwyieithog sy'n bosibl. Fodd bynnag, mae'r ffordd i fedrusrwydd mewn dwy iaith yn un hir. Dyma un rheswm dros bryder diangen rhieni sy'n poeni am gyrchfannau. Mae caffael dwy iaith yn gynnar yn ymddangos i rai rhieni fel teithio'n araf. I rieni eraill, mae'r daith ym mlynyddoedd hwyrach plentyndod a'r arddegau yn ymddangos yn drafferthus, neu hyd yn oed fel mynd tuag yn ôl. Mae'r fath bryderon yn ymddangos yn arferol ac yn gyffredin ymhlith rhieni plant dwyieithog. Fodd bynnag, os nad yw niferoedd yn gysur, ystyriwch gymharu'ch plentyn dwyieithog â phobl ddwyieithog eraill ac nid â'r person uniaith cyflymaf sy'n gosod y cyflymder. Mae llawer o bobl ddwyieithog yn dangos yr un perfformiad ieithyddol â phobl uniaith yn un o'u hieithoedd. Mae rhai, ond nid pob un, yn datblygu cryn gymhwysedd mewn ail iaith. Anaml iawn y mae pobl ddwyieithog yr un mor rhugl ym mhob sefyllfa yn eu dwy iaith.

Ni fydd pob plentyn dwyieithog yn cyrraedd yr un cyrchfan ieithyddol. Mae amgylchiadau teuluol, cymunedol ac addysgol weithiau'n golygu bod y daith yn aros gyda dwyieithrwydd goddefol (hynny yw, deall ond nid siarad ail iaith). Nid llinell derfyn yw dwyieithrwydd rhannol neu oddefol. Gyda'r angen i ddod yn berson dwyieithog gweithredol (e.e. trwy ymweld â'r wlad lle mae'r iaith sydd wedi bod yn ‘oddefol' hyd yn hyn yn drechol), gall y daith barhau hyd ddwyieithrwydd mwy cyflawn.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd