Mewn gwahanol rannau o'r byd, mae yna blant sy'n dysgu dwy neu ragor o ieithoedd lleol a iaith genedlaethol hefyd. Mewn rhannau o India, Llychlyn, Affrica ac Asia, mae yna lawer o blant sy'n dod yn dairieithog ac yn amlieithog. Mewn rhai rhannau o'r byd, mae teirieithrwydd yn beth gweddol arferol a naturiol.
Ychydig o ymchwil sydd ar deirieithrwydd ac amlieithrwydd yn y teulu i gynnig cyngor eglur. Fodd bynnag, yng Nghanada mae ymchwil wedi bod ar blant yn dod yn deirieithog mewn Saesneg, Ffrangeg a Hebraeg (ac mewn Saesneg, Ffrangeg ac iaith frodorol Indiaid Gogledd America). Ar gyfandir Ewrop, mae yna lawer o blant sy'n dod yn rhugl mewn tair iaith (e.e. Swedeg, Ffinneg, Saesneg; Almaeneg, Ffrangeg, Saesneg). Mae'r Llychlynwyr fel petaent yn arbennig o brofiadol a llwyddiannus wrth gynhyrchu plant teirieithog. Mae llawer o blant Llychlyn yn dysgu dwy iaith yn yr ysgol (e.e. Saesneg, Almaeneg) yn ogystal â bod yn rhugl yn eu hiaith gartref. Mae i ddysgu ieithoedd statws cymharol uchel yng ngwledydd Llychlyn. Mewn rhannau o Affrica, Asia ac India, mae teirieithrwydd hefyd yn gymharol mynych a derbyniedig. Mae teirieithrwydd yn bosibl ac yn werthfawr.
Un llwybr i deirieithrwydd sydd wedi ei gofnodi yw bod y rhieni yn siarad dwy iaith wahanol â'u plant yn y cartref. Mae'r plant wedyn yn cael eu haddysg trwy gyfrwng trydedd iaith. Bydd iaith fwyafrifol y gymuned yn dylanwadu ar gryfder cymharol y tair iaith. Bydd medrusrwydd yn y tair iaith yn newid dros amser. Mae teirieithrwydd sefydlog yn ymddangos yn llai tebygol na dwyieithrwydd sefydlog. Mae hi rywfaint yn haws sefydlu teirieithrwydd yn gynnar na chynnal teirieithrwydd yn llwyddiannus dros flynyddoedd yr arddegau.
Mae rhai rhieni i blant teirieithog yn ei chael yn werthfawr pan fo un rhiant, neu'r ddau, hefyd yn dysgu iaith newydd. Er na fydd y rhiant hwn, efallai, yn fodel iaith perffaith i'r plentyn yn yr iaith newydd honno, serch hynny mae'n anfon neges bwysig i'r plentyn, bod amlieithrwydd yn werth pwysig i'r teulu. Er bod perygl bob amser i'r rhiant yn y sefyllfa hon ddysgu camgymeriadau i'r plentyn ac i'r plentyn efelychu ffurfiau anghywir, bydd y plentyn yn dod yn ymwybodol bod caffael iaith newydd yn rhan o ddysgu gydol oes y rhoddir gwerth arno, ac yn rhan o fywyd teuluol.
Un amod i deireithrwydd yw bod angen datblygu o leiaf un iaith yn llawn. Mae'n bwysig i ddatblygiad gwybyddol y plentyn bod o leiaf un iaith yn datblygu i lefel sy'n briodol i'r oedran. Er enghraifft, bydd angen i'r plentyn fod â digon o gymhwysedd ieithyddol i weithredu mewn cwricwlwm ysgol sy'n mynd yn fwyfwy haniaethol. Un perygl bach yw lefel isel o ddatblygiad yn y tair iaith. Byddai hyn yn rhwystro datblygiad gwybyddol y plentyn ac mae'n gofyn am wyliadwriaeth, ymroddiad ac ystyrioldeb ychwanegol yn y teulu.