Mae dwy ffordd y gall rhiant fynd ati i ddysgu Cymraeg gyda’i blentyn.
1. Un rhiant yn dysgu’r iaith oddi wrth y rhiant arall ochr yn ochr â’i blentyn – e.e. bod y tad yn dysgu’r Gymraeg wrth wrando ar y fam yn siarad gyda’r plentyn. Bydd y tad yn gallu deall llawer o sgyrsiau Cymraeg y teulu, ond yn dal i siarad ei iaith gyntaf.
2. Mynd i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg. Mae miloedd o bobl wrthi’n dysgu Cymraeg, ac mae cyrsiau ar gael ledled Cymru sy’n addas ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Mae pob math o gyrsiau ar gael. Ewch i wefan Cymraeg i Oedolion wrth glicio ar y ddolen sydd ar ochr dde’r dudalen hon.