Ar un pegwn dimensiwn ‘ymaddasiad hunaniaeth' mae plant sy'n dysgu newid rhwng dau ddiwylliant yr un mor hawdd ag y maent yn newid rhwng dwy iaith. Maent yn Sbaenwyr yn Sbaen ac yn Saeson yn Lloegr; Iddew Hebraeg ei iaith yn Israel, Iddew sy'n siarad Iddew-Almaeneg yn y cartref yn Efrog Newydd ac yn Americanwr Saesneg ei iaith yn yr ysgol. I rai, ychydig o broblemau sydd o ran cymysgu diwylliannol neu argyfwng hunaniaeth. Mae ganddynt ddauddiwylliannedd yn ei llawn dwf, wedi'i harddangos yn rhwydd a'i hedmygu gan bawb sy'n ei gweld.
Ymysg mewnfudwyr, mae hunaniaeth ethnig yn dechrau tua thair i bump oed, ac erbyn saith neu wyth oed mae'n sefydledig ond yn parhau i ddatblygu. Yn ystod yr arddegau, gall gwahaniaethau ethnig ddod yn fwyfwy ymwybodol a bwriadol.
Nid yw hunaniaeth byth yn ddigyfnewid nac yn barhaol, nid yw byth yn unigol ac anaml y mae'n unedig. Mae'n naturiol i blentyn neu oedolyn fod â gwahanol hunaniaethau mewn gwahanol gyd-destunau sy'n newid gydag amser. Mae hunaniaeth yn fater o ddod yn hytrach nag o fod. Nid yw'n fater o ‘pwy ydym ni' neu ‘o le ddaethom ni' yn gymaint â ‘sut ydym ni'n cael ein cynrychioli' a ‘beth allem ni ddod i fod' a ‘beth allwn ni ddim â bod'. Yn aml nid yw hunaniaeth ddiwylliannol, ethnig neu ieithyddol yn gymaint yn fater o ddychwelyd at ein gwreiddiau ond o wneud synnwyr o'n llwybrau yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Wrth i ni newid rolau, yn naturiol mae gennym wahanol hunaniaethau. Mae'r plentyn yn cymryd arno wahanol hunaniaethau, gyda gwahanol bobl ac mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae'r plentyn, yn enwedig yn ei arddegau, yn dysgu chwarae gwahanol rannau, gwisgo gwahanol ‘wisgoedd' a chydgordio gyda gwahanol set o chwaraewyr. Mae'n bwysig i'r fath rolau a'r is-hunaniaethau sy'n ganlyniad iddynt integreiddio'n un cyfan cydgordiol boddhaol. Mae angen cysondeb a chyfanrwydd arnom i gyd o gwmpas yr is-hunaniaethau hynny. O'r ystyriaeth hon, gellir dweud rhywbeth pwysig am ddwyieithrwydd a hunaniaeth.
Mae'r drafodaeth hon ar is-hunaniaethau a chwarae gwahanol rolau yn awgrymu dau beth. Yn gyntaf, bod angen i blentyn gael profiad o chwarae gwahanol rannau'n llwyddiannus a gweld hynny'n digwydd. Mae actio ar lwyfan newydd gyda gwahanol bobl a chelfi anarferol yn anodd i bawb ohonom. Po fwyaf rydym ni'n gweld a phrofi setiau'n newid, actorion ac actoresau'n newid a drama wahanol, mwyaf y byddwn ni'n cydgordio gyda'r rhan. Felly mae angen i blentyn weld a phrofi digon o'r diwylliannau sy'n mynd gyda'r ddwy iaith.
Mae hunaniaeth person dwyieithog yn broblem sy'n benodol i'r gorllewin. Mewn llawer o gymunedau iaith yn Affrica ac Asia, er enghraifft, mae dwyieithrwydd (neu amlieithrwydd) yn cael ei dderbyn fel y peth arferol. Eithriad yw'r person sy'n uniaith ac yn unddiwylliannol, sy'n methu â newid rhwng gwahanol ddiwylliannau a chymunedau ieithyddol. Mewn llawer o wledydd, mae amrywiaeth ieithyddol o fewn y gymdeithas ac o fewn yr unigolyn yn naturiol, yn normal ac yn ddymunol.
Er y gall dwyieithrwydd a dauddiwylliannedd ymddangos fel petaent yn cael effaith andwyol ar bersonoliaeth, nid yw'n debygol mai dwyieithrwydd yw'r achos. Hynny yw, nid iaith sy'n achosi problemau personoliaeth. Yn hytrach, achosir y problemau hynny'n aml gan amgylchiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol pobl ddwyieithog. Lle mae'r gymuned ddauddiwylliannol yn cael ei difrïo a'i hystyried yn israddol yn gymdeithasol ac yn ddifreintiedig yn economaidd, a lle ceir trais symbolaidd neu gorfforol yn erbyn y gymuned iaith leiafrifol, gall problemau personoliaeth godi yn y plant. Nid bod yn ddwyieithog, ond y cyflwr y mae'r gymuned iaith yn byw ynddo allai fod yn achosi'r broblem. Lle mae cymunedau iaith yn cael eu gormesu a'u sathru dan draed, y rhagfarn a'r gwahaniaethu gan gymunedau eraill, ac nid dwyieithrwydd, allai effeithio ar hunaniaeth a phersonoliaeth.