A ddylai plant hŷn beidio â chael eu hanfon i ysgolion uwchradd dwyieithog?
Wrth i blant a rhieni symud o un ardal i'r llall, gall anawsterau godi o ran cyfrwng iaith yr ysgol. Er enghraifft, pan fo plant rhwng saith ac un ar bymtheg oed ac nid yw eu hiaith wedi datblygu digon i ganiatáu iddynt newid yn rhwydd i'r iaith a ddefnyddir yng nghwricwlwm yr ysgol, pa ddewisiadau eraill sydd?
Os yw rhiant iaith fwyafrifol yn symud i amgylchedd iaith fwyafrifol neu leiafrifol wahanol, gall fod cyrsiau iaith atodol cyn i'r plentyn fynd i'r ysgol newydd, neu cyn gynted â'i fod yn cyrraedd. Er enghraifft, yng Nghymru, mae canolfannau iaith i siaradwyr iaith fwyafrifol sy'n mewnfudo i'r ardal. Mae'r plant yn treulio pymtheg wythnos neu ragor yn y canolfannau iaith leiafrifol hyn cyn mynd i'r ysgol gynradd. Addysgir yr iaith newydd i'r plant mewn ffordd fywiog a deniadol, ac ar yr un pryd, gwneir ymdrech i sicrhau bod eu gwaith trwy'r cwricwlwm craidd yn cadw at yr hyn a ddisgwylir ym mhob oedran. Pan fo plant yn ddigon rhugl i ddeall yr iaith honno yn y dosbarth, maent yn cael eu trosglwyddo i ysgol gynradd brif ffrwd.
Mewn achosion eraill, mae dosbarthiadau o fewn ysgol sydd wedi eu neilltuo ar gyfer hwyrddyfodiaid. Er bod defnyddio dosbarthiadau ar wahân am gyfnod hir yn tueddu i warthnodi plant, yn y tymor byr efallai y bydd angen ieithyddol am ddarpariaeth ychwanegol.
Mae plant hŷn yn cael cwricwlwm uwch ac felly mae angen iaith uwch i ymdopi â'r cwricwlwm. Felly mae symud o gyfrwng un iaith i un arall yn tueddu i fynd yn anos wrth i blant fynd trwy flynyddoedd yr ysgol. Os yw'n cael ei drin gyda chydymdeimlad, yn sensitif ac yn ofalus, mae newid iaith yn bosibl. Ar ôl gofidiau a phryderon gan blant a'u rhieni ar y dechrau, mae plant yn syndod o wydn ac yn gallu ymaddasu i sefyllfaoedd newydd, gan gynnwys sefyllfaoedd ieithyddol newydd. Mae'n bwysig bod y plant yn cael eu derbyn, bod eu hunan-barch a'u hyder yn eu gallu academaidd yn cael eu cynnal ac nad yw eu hiaith gyntaf yn cael ei dirmygu a'i dilorni.
Mewn ysgol sy'n defnyddio iaith wahanol hyd nes bod y plant yn saith oed, fel arfer ychydig o broblemau sydd wrth newid. Ar ôl saith oed, yn aml mae angen i blentyn gaffael yn gyflym ddigon o gymhwysedd ieithyddol i weithio yn y cwricwlwm. Os gellir caffael y fath fedrusrwydd ieithyddol yn gymharol gyflym, mae newid i gyfrwng iaith wahanol yn bosibl trwy gydol blynyddoedd yr ysgol gynradd.
Pan fydd plentyn yn cael trafferth yn y tymor hir (ac nid yn unig yn y tymor byr) i ddal i fyny gyda'r cymhwysedd ieithyddol y mae ei angen i ymdopi yn y cwricwlwm, efallai fod angen i rieni ystyried y dewisiadau eraill yn ofalus. Mae angen cloriannu blaenoriaethau cymharol rhieni mewn addysg (e.e. llwyddiant mewn arholiadau, datblygiad moesol a chymdeithasol) yn erbyn blaenoriaethau iaith. Mae cynnal hunan-gysyniad academaidd cadarnhaol y plentyn a'i gyflawniad cadarnhaol yn y cwricwlwm yn hanfodol er mwyn sicrhau bod llwyddiant yn magu llwyddiant.