A ddylai fy mhlentyn gael ei ddysgu'n ddwyieithog yn yr ysgol gynradd ond nid yn yr ysgol uwchradd?
Mae rhai rhieni yn ei chael hi'n gwbl naturiol i'w plant gael eu haddysgu'n ddwyieithog yn yr ysgol gynradd oherwydd bod y fath ysgolion yn aml yn blentyn-ganolog. Mae yna amser yn y cwricwlwm ac awyrgylch anffurfiol, hyfryd fel bod caffael iaith yn gallu digwydd yn yr ysgol gynradd. Mae'r blynyddoedd cynradd yn ymddangos yn adeg pan fo caffael iaith yn flaenoriaeth uwch o'i chymharu â'r gofynion i lwyddo mewn arholiadau yn ddiweddarach, yn yr ysgol uwchradd. Mae rhai rhieni felly yn gweld yr ysgol gynradd fel y man delfrydol i ddwyieithrwydd plentyn ffynnu.
Weithiau, mae gan yr un rhieni syniadau gwahanol ar gyfer addysg uwchradd. Gwelir addysg uwchradd fel adeg i fod o ddifrif ynghylch dysgu pynciau, llwyddo mewn arholiadau a pharatoi ar gyfer y farchnad waith. Yn ystod blynyddoedd addysg uwchradd, mae athrawon a rhieni yn ymddiddori fwyfwy yng nghyflawniad y plentyn mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth, yr iaith fwyafrifol a'r Dyniaethau. Mae ail iaith yn troi'n bwnc arholiad. I rai rhieni, nid yw datblygiad dwyieithog mor bwysig yn ystod y blynyddoedd uwchradd. Y nod yw llwyddo mewn arholiadau, graddio, symud ymlaen i goleg neu brifysgol a sicrhau cyfleoedd gwaith.
Mewn gwledydd lle mae addysg ddwyieithog yn ffynnu'n llwyddiannus ar y lefel gynradd, yn rhy aml mae gweinyddwyr addysg, gwleidyddion a rhieni yn rhoi blaenoriaeth is i ddwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog ar y lefel uwchradd. Un rheswm dros addysg uwchradd ddwyieithog yw ei bod yn rhoi parhad i'r plentyn o ran iaith ei addysg. Wedi cael ei ddysgu trwy gyfrwng dwy iaith hyd at ddiwedd ei addysg gynradd, mae'n hollol synhwyrol i'r plentyn barhau â phatrwm iaith yr ysgol gynradd yng nghwricwlwm yr ysgol uwchradd. Mae ymchwil yn tueddu i awgrymu na fydd defnyddio dwy iaith yng nghwricwlwm yr ysgol uwchradd yn cael effaith negyddol ar gynnydd a llwyddiant diweddarach y plant. Yn wir, mae'n bosibl bod rhywfaint o enillion i'w cael o ran cyflawniad ar draws y cwricwlwm ac, o leiaf, o ran sicrhau safon uchel yn yr ail iaith. Mae ysgolion uwchradd dwyieithog yn aml yn cynhyrchu plant y mae eu dwyieithrwydd a'u daulythrennedd yn ddatblygedig iawn. Mae angen i blant fynd i addysg uwchradd gyda digon o gymhwysedd ieithyddol i ymdopi â lefel yr iaith a ddefnyddir gan yr athrawon ac a geir yn neunyddiau'r cwricwlwm.
Angen arall mewn sefyllfaoedd lleiafrif ieithyddol yw bod gan ysgolion ddeunyddiau cwricwlwm priodol yn yr iaith leiafrifol. Nid yw cyfieithiadau brysiog o'r iaith fwyafrifol, taflenni gwaith a dalennau wedi eu cynhyrchu'n wael a'u llungopïo yn gallu cymryd lle cyflwyniadau proffesiynol o ansawdd da a deunyddiau cwricwlwm modern yn yr iaith leiafrifol. Mae hyn yn gostus ond yn weddol hanfodol. Weithiau mae ysgolion uwchradd iaith leiafrifol yn gweld bod yn rhaid iddynt droi at adnoddau cwricwlwm sgleiniog yn yr iaith fwyafrifol. Yn yr amgylchiadau hyn, nid yn unig y mae'r iaith fwyafrifol yn cael eu hyrwyddo ar draul yr iaith leiafrifol, ond mae statws y ddwy iaith mewn perthynas â'i gilydd yn cael ei amlygu. Mae'r iaith leiafrifol yn ymddangos yn ddiffygiol ac yn israddol. Mae hon yn broblem ryngwladol a geir mewn llawer o ysgolion ieithoedd lleiafrifol.
Un peth a all rwystro rhieni uniaith rhag anfon eu plant i ysgolion uwchradd dwyieithog yw na fyddant, efallai, yn gallu helpu eu plant gyda'u gwaith cartref. Fel arfer nid yw plant y mae eu dwy iaith yn ddatblygedig yn cael fawr o drafferth cyfieithu er mwyn helpu eu rhieni i ddeall y broblem. Mae'r weithred o gyfieithu weithiau fel petai'n helpu wrth ddeall y gwaith. Er y gall gymryd ychydig mwy o amser i gyfieithu, gall y disgybl ysgol uwchradd a'r rhiant uniaith ryngweithio a meddwl am broblem gwaith cartref gyda'i gilydd.
Yn ogystal, pan fo'r ddwy iaith yn ddatblygedig, gall plant mewn addysg uwchradd fod â'u gwerslyfrau mewn un iaith tra bo gwerslyfrau cyfatebol neu debyg ar gael mewn ail iaith hefyd. Felly, mewn Mathemateg a'r Gwyddorau, gall plant weld esboniadau ac enghreifftiau yn y ddwy iaith. Mae hyn i'w weld yn cynyddu'r tebygrwydd y byddant yn deall.
Gwrthwynebiad arall sydd gan rai rhieni dwyieithog i addysg uwchradd ddwyieithog yw mai iaith fwyafrifol yw iaith prifysgolion a cholegau yn aml. Erbyn un ar bymtheg, dwy ar bymtheg neu ddeunaw oed, mae plant dwyieithog i'w gweld mor dda yn newid o un iaith i'r llall fel y gallant yn gymharol hawdd ymaddasu i weithio mewn prifysgol neu goleg yn y naill iaith neu'r llall. Cyn belled â bod yr iaith sydd i'w defnyddio yn y brifysgol wedi ei datblygu'n dda a bod y dyfnder geirfa a'r cymhlethdod strwythur ieithyddol gan y plentyn sy'n angenrheidiol mewn addysg uwch neu drydyddol, nid oes fawr ddim rheswm pam na all plentyn newid iaith o'r ysgol i'r coleg.