Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
A ddylai fy mhlentyn gadw'r ddwy iaith ar wahân mewn gwahanol sefyllfaoedd a chyda gwahanol bobl?  

Un syniad allweddol wrth fagu plentyn yn ddwyieithog yw'r syniad o ffiniau ieithyddol. Mae arbenigwyr ar ddwyieithrwydd yn draddodiadol wedi pwysleisio pwysigrwydd cadw cyd-destun ieithoedd plant mewn adrannau. Er enghraifft, bydd hyn yn digwydd pan yw un rhiant yn siarad un iaith a'r rhiant arall yn siarad iaith wahanol â'r plentyn. I'r plentyn hwn, mae yna raniad clir wrth wrando ar y ddwy iaith. Mae gwahanu ieithoedd yn ei gwneud hi'n hawdd i blentyn wybod pryd y dylai siarad pa iaith â pha riant.

Enghraifft debyg gyda gwahanu clir rhwng dwy iaith yw ysgolion dwyieithog yn yr Unol Daleithiau. Yn yr ysgolion hyn, mae trefn defnyddio iaith am yn ail. Er enghraifft, ar un diwrnod mae cynnwys y cwricwlwm yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Sbaeneg a'r diwrnod wedyn trwy gyfrwng y Saesneg, gan gylchdroi bob yn ail er mwyn sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal yn y cwricwlwm. Y syniad canolog o gael bob yn ail diwrnod gyda iaith wahanol yw cadw ffiniau ieithyddol clir. Yn hytrach na chael dryswch a chybolfa o gynhyrchu iaith, mae rhoi ieithoedd mewn adrannau yn cynorthwyo datblygiad dwyieithog.

Mae gwerth gwahanu iaith yn gyson yn dod yn fwy amlwg wrth i ni ystyried diffyg gwahanu. Dychmygwch riant sy'n siarad Ffrangeg a Saesneg gyda'i blentyn. Mae'r rhiant hwn yn newid ieithoedd tu mewn i ‘frawddeg' ac ar draws ‘brawddegau'. Un canlyniad posibl yw y bydd y plentyn yn efelychu'r rhiant, gan gymysgu'r ieithoedd y tu mewn i ‘frawddeg'. Yn gynnar iawn yn natblygiad dwyieithog y plentyn, mae hyn yn naturiol a gellir ei oddef. Wrth i blentyn dyfu'n hyn, mae gwahanu'n dod yn fwy pwysig. Os yw rhiant yn cymysgu dwy iaith, gall y plentyn ystyried mai un system iaith holl gynhwysfawr sydd. Felly gall cymysgu ieithoedd ddod yn normal ac yn naturiol i'r plentyn hwnnw. Fel arfer mae rhieni plentyn dwyieithog yn awyddus i osgoi cymysgu fel hyn yn y cyfnod cynnar.

Bydd cadw ieithoedd ar wahân gyda therfynau a ffiniau clir rhyngddynt yn tueddu i wneud datblygiad dwyieithog yn fwy effeithlon, yn fwy derbyniol yn gymdeithasol ac yn porthi cof ieithyddol a chronfa ieithyddol y plentyn mewn ffordd fwy priodol.

Mae plant hefyd yn tueddu i greu eu ffiniau ieithyddol (dros dro) eu hunain, yn enwedig pan maent yn ifanc iawn. Er enghraifft, yn y sefyllfa un rhiant, un iaith, gall plentyn ddod i arfer â siarad un iaith â'r tad yn unig. Y ffin ieithyddol ddisgwyliedig yw bod pob dyn yn siarad yr iaith honno. Disgwylir i bob menyw siarad iaith wahanol.

Nid yw bywyd teuluol bob amser yn ddigon syml i'w gwneud hi'n hawdd cadw ieithoedd mewn adrannau, yn enwedig os oes ymgais i gael cydbwysedd rhyngddynt. Yn y sefyllfa ‘un rhiant, un iaith', mae'r cwestiwn o ba iaith y mae'r rhieni yn siarad â'i gilydd. Pa iaith mae'r teulu yn siarad pan fo pawb gyda'i gilydd (e.e. prydau bwyd)? Gall y fath benderfyniad ogwyddo'r cydbwysedd o blaid un iaith yn hytrach na'r llall yn y teulu. Yr egwyddor arweiniol yw i rieni geisio cael cydbwysedd yn y ddwy iaith a brofir gan y plentyn, o ran ansawdd a maint. Ni ellir gwneud hyn yn fathemategol, gyda chanrannau cyfartal o amser neu ysgogiad. Fodd bynnag, mae angen meddwl am y cydbwysedd a'i ystyried yn ofalus. Pan yw brodyr a chwiorydd yn rhan o'r teulu cnewyllol, mae'n fwy anodd rhaglennu rhyngweithio ieithyddol rhyngddynt.

Mae angen i drafodaeth gan y rhieni ynghylch cydbwysedd ieithyddol gynnwys trechedd a statws yr ieithoedd yn y gymuned ac yn yr ysgol yn ogystal ag ym mywyd y teulu. Er enghraifft, lle mae un iaith yn llai ei bri, gellir rhoi mwy o amlygrwydd i'r iaith honno yn y cartref. Un achos perthnasol yw tad sy'n siarad iaith fwyafrifol â'r plentyn, a'r fam yn siarad iaith leiafrifol. Mae angen i'r tad ystyried siarad yr iaith leiafrifol yn y cartref er mwyn codi ei statws yng ngolwg y plentyn.

Lle mae'r ddau riant yn siarad un iaith â'r plentyn, y cwestiwn yw pa iaith i'w siarad â'r plentyn pan yw ymwelwyr yn bresennol. A yw'r rhieni yn cadw at yr iaith leiafrifol, er enghraifft, neu a ydynt yn newid i'r iaith fwyafrifol er mwyn peidio â chau allan yr ymwelwyr? Neu a yw'r rhieni, fel mae rhai arbenigwyr yn cynghori, yn cario ymlaen fel arfer, yn peidio â drysu'r patrymau iaith arferol, ond yn cyfieithu ar gyfer y gwesteion?

Nid oes ateb syml ynghylch beth i'w wneud pan fo patrymau iaith normal yn cael eu drysu. Fodd bynnag, mae rhai canllawiau yn bosibl. Yn gyntaf, mae'n ddymunol i rieni drafod y sefyllfaoedd cyffredinol sy'n codi amlaf, wrth edrych yn ôl neu wrth edrych ymlaen. Mae'n fanteisiol cynllunio ymlaen llaw pa iaith a gaiff ei defnyddio gyda phobl ddieithr a chyda'i gilydd. Bydd dealltwriaeth yn y teulu yn rhoi cryfder ieithyddol i'r teulu ac yn creu sefyllfa sefydlog a chytûn i'r ymwelydd. Ond, ac yn baradocsaidd i hyn, mae'n bwysig bod yn naturiol ac yn gwrtais, gan wneud bywyd ieithyddol yn beth i'w fwynhau.

Mae'n rhan o ymddygiad naturiol ac arferol person dwyieithog i newid ieithoedd yn bwrpasol. Ar ôl cyfnod cychwynnol (pan fo plentyn yn dysgu bod dwy iaith wahanol a'i fod yn weddol ymwybodol o'r ddeuoliaeth honno), mae yna lawer o droeon pan yw pobl ddwyieithog yn newid eu hieithoedd yn werthfawr mewn sgwrs: i bwysleisio syniadau, i gyfleu negeseuon pwysig, ailadrodd sgyrsiau o'r gorffennol. Felly mae newid iaith ar ôl i'r ddwy iaith gael eu gwahanu yn sicr yn rhan werthfawr o gampau ieithyddol person dwyieithog ac mae iddo swyddogaeth a phwrpas.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd