Lle mae gan rieni ddewis o ysgolion, mae angen ystyried amryw o ffactorau wrth ddewis ysgol briodol i'r plentyn. Mae'r iaith (neu'r ieithoedd) a ddefnyddir yn yr ysgol yn rhan bwysig o'r penderfyniad hwnnw. Ni ddylid ystyried iaith fel yr unig ffactor. Mae ysgolion sy'n cefnogi dwyieithrwydd plant yn amrywio o rai rhagorol i rai da i rai derbyniol, ac yn cynnwys rhai gwael. Nid yw ysgol ddwyieithog o reidrwydd yn ysgol effeithiol na llwyddiannus. Mae ethos yr ysgol, ymrwymiad yr athrawon, llwyddiant yr ysgol wrth addysgu llythrennedd a rhifedd, creadigedd yn y celfyddydau mynegol, sylfaen wyddonol gadarn, datblygiad moesol a chrefyddol, perthynas integredig a chydgordiol rhwng y disgyblion a chydweithredu effeithiol gyda'r rhieni yn rhai o'r ffactorau y mae angen i rieni eu hystyried wrth benderfynu ar ysgol addas.
Wrth holi am bolisi iaith yr ysgol, mae'n bwysig dod o hyd i wir amcanion ieithyddol yr ysgol. Mae ysgolion yn dod yn dda am roi cyhoeddusrwydd iddynt eu hunain, gan gyhoeddi amcanion cenhadol o ran iaith a pholisïau eraill. Bydd ymweliadau â'r ystafelloedd dosbarth a holi'r Pennaeth, Gweinyddydd yr Ysgol ac athrawon eraill yn ofalus yn datgelu realiti ieithyddol yr ysgol a beth mae ysgol yn ei gyflawni yn hytrach na beth mae'n dweud ei bod yn gobeithio ei gyflawni. Peidiwch â dibynnu ar nodau ac amcanion honedig (neu ddatganiad o genhadaeth) yr ysgol. Chwiliwch am wir ganlyniadau a record yr ysgol. Gwell gweithredoedd na geiriau; mae perfformiad yn bwysicach nag addewidion.
Mewn sefyllfa lleiafrif ieithyddol, mae'r rhiant yn debyg o fod eisiau i'r iaith leiafrifol fod yn bresennol yn yr ysgol gynradd ac uwchradd lle bynnag y bo modd. Gelwir hon weithiau yn addysg iaith dreftadaeth. Nod yr ysgol fydd cefnogi datblygiad ieithyddol yn yr iaith leiafrifol. Anogir llythrennedd yn yr iaith leiafrifol yn gyntaf. Pan fo plant o gwmpas saith oed, mae'r iaith fwyafrifol yn debyg o gael ei chyflwyno yn y dosbarth. Unwaith mae llythrennedd yn yr iaith leiafrifol wedi ei sefydlu'n dda, mae llythrennedd yn yr ail iaith – yr iaith fwyafrifol – yn datblygu'n fuan. Yn gyffredinol, addysg trwy gyfrwng yr iaith leiafrifol yw'r dewis gorau i blentyn o leiafrif ieithyddol. Mae plentyn o leiafrif ieithyddol yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus yn y cwricwlwm na phlentyn tebyg sy'n mynd i ysgol sydd â'r iaith fwyafrifol fel cyfrwng. Bydd hyn yn cael ei esbonio yn awr.
Pan fo plant yn cael eu magu yn yr iaith fwyafrifol gartref, gellir mabwysiadu polisi gwahanol ar addysg ddwyieithog. Mae plant o gartrefi iaith fwyafrifol i'w gweld yn llwyddiannus pan gânt eu haddysgu trwy gyfrwng iaith wahanol. Ymhen amser, mae'r fath blant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y ddwy iaith yn yr ysgol gynradd. Trwy eu trochi'n dyner pan yn ifanc mewn ail iaith fwyafrifol, mae plant yn dod yn ddwyieithog ac yn ddaulythrennog heb golli dim o'u perfformiad academaidd. Y pwynt hanfodol ynghylch ysgolion o'r fath yw nad oes iaith arall yn cymryd lle iaith fwyafrifol cartref y plentyn; yn lle hynny mae'n cael iaith fwyafrifol ychwanegol.
Ceir patrwm tebyg gyda phlant iaith fwyafrifol sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng iaith leiafrifol. Dyma sy'n wir yng Nghymru ar hyn o bryd, lle mae nifer cynyddol o rieni Saesneg eu hiaith yn dewis anfon eu plant i ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg. Yn enwedig pan fo'r fath blant yn dechrau eu haddysg yn y Gymraeg yn bedair neu bump oed, nid yw eu cymhwysedd a'u perfformiad yn y cwricwlwm yn Saesneg yn dioddef. Yn hytrach, maent yn ychwanegu iaith a diwylliant heb gost i'w hiaith gartref na'u cyflawniad mewn gwahanol bynciau ysgol.
Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn wedi amlygu un pwynt. Gall ysgol ddweud bod ganddi bolisi o ddwyieithrwydd. Mae angen i rieni asesu'n ofalus ei gwir fwriadau, ei heffeithiolrwydd wrth gynhyrchu plant dwyieithog a daulythrennog a chanlyniadau nodweddiadol yn y ddwy iaith. Mae rhai ysgolion dwyieithog mewn gwirionedd yn ffyrdd i unieithrwydd iaith fwyafrifol. Ysgolion sy'n dysgu trwy gyfrwng yr iaith leiafrifol ac ysgolion sy'n cyflwyno plant iaith fwyafrifol i ail iaith fwyafrifol neu leiafrifol yw'r rhai sy'n meithrin dwyieithrwydd a daulythrennedd fwyaf. Mae rhai ysgolion dwyieithog yn effeithiol fel arfer oherwydd bod ganddynt yr ymrwymiad ychwanegol hwn i ddatblygiad ieithyddol plant.