Yng nghyfnodau cynnar datblygiad dwyieithog, mae'n tueddu i fod yn fwy defnyddiol os yw'r plentyn bob amser yn siarad un iaith yn unig gyda pherson penodol. I blentyn ifanc, yn aml mae'n peri dryswch pan fo rhywbeth heblaw 'un iaith i bob person'. Dychmygwch y sefyllfa lle mae plentyn yn siarad Ffrangeg â'r tad, sy'n ateb yn Saesneg. Mae'r plentyn yn ceisio ateb yn Saesneg ac yna mae'r tad yn troi i'r Ffrangeg. Gall y plentyn fynd yn ansicr ac yn ddryslyd. Mae angen peth sicrwydd a sefydlogrwydd ar y plentyn iau wrth siarad a gwrando. Cam gwerthfawr hefyd yw sefydlu ffiniau ieithyddol clir a rhoi ieithoedd mewn adrannau.
Unwaith mae'r plentyn wedi dysgu gwahanu ieithoedd yn weddol, nid yw'n anghyffredin i blant hŷn ddefnyddio'r ddwy iaith gyda'r un person. Mewn sefyllfa un i un, bydd defnydd y plentyn hŷn o ieithoedd gyda pherson penodol yn sefydlog ac yn weddol ddigyfnewid. Unwaith mae pobl eraill yn dod i mewn i'r sgwrs, gall y plentyn hŷn newid iaith. Mae plant yn syfrdanol o fedrus o ran gwybod pryd i newid iaith. Am y rheswm hwn yn rhannol, mae pobl ddwyieithog fel petai ganddynt rywfaint o sensitifrwydd cymdeithasol nad oes gan bobl uniaith mewn sefyllfa ieithyddol.