Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Amdanom Ni 

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe’i sefydlwyd ynLogo Bwrdd yr Iaith Gymraeg Rhagfyr 1993, o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg. 

Penodir aelodau'r Bwrdd gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae gan y Bwrdd staff o dros saith deg. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, daeth y Bwrdd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl bod yn atebol i'r Swyddfa Gymreig ac yn cael ei ariannu ganddi yn y gorffennol.

Yn syml, prif nod y Bwrdd yw ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio'r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd, i fagu hyder pobl yn eu gallu i ddefnyddio’r iaith, i annog mwy o bobl i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg mewn sefyllfaoedd newydd, ac i drosglwyddo’r iaith i’w plant.

"Prif nod y Bwrdd yw ei gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd." 

 

Rydym hefyd yn anelu at weithio mewn partneriaeth â chyrff sector cyhoeddus, busnesau preifat a mudiadau gwirfoddol, yn cynnig cyngor ac adnoddau i helpu darparwyr gwasanaethau i roi dewis iaith naturiol i’w cwsmeriaid.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd