Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Blaenoriaethau strategol 

Ymestyn Dylanwad Cynlluniau Iaith (eiriol dros siaradwyr Cymraeg – sicrhau cydymffurfiaeth)
• Mae Cynlluniau Iaith yn hwyluso defnydd gweithredol o’r Gymraeg yn y sefydliadau sy’n meddu arnynt.  O dan y Ddeddfwriaeth gyfredol, Cynlluniau Iaith Gymraeg yw ein prif ddull statudol i normaleiddio’r Gymraeg. 
• Byddwn yn defnyddio ein rôl statudol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Chynlluniau Iaith gan gynnal Ymchwiliadau (o dan Adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993) i ddiffyg cydymffurfiaeth lle bo’n briodol.
• Byddwn yn anelu at fanteisio ar bob cyfle arall i hyrwyddo statws a defnydd y Gymraeg, e.e. drwy sicrhau bod trydydd partïon yn cydymffurfio â Chynlluniau Iaith sefydliadau sy’n comisiynu gwaith ganddynt.

Polisïau Iaith Gymraeg (i fusnesau)
• Prif ffocws y Bwrdd yn y sector preifat yw cydweithio er mwyn cytuno Polisïau Iaith Gymraeg. Mae’r polisïau hyn yn cynorthwyo busnesau i fesur, rheoli a chynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.  Mae’r templed a’r canllawiau sy’n gefn i’r polisïau hyn yn dod ag eglurdeb a symlrwydd i faes sydd yn aml yn un newydd i reolwyr a staff.

Addysg Gymraeg
• Heb gyflenwad parhaol o siaradwyr newydd, fe fydd iaith yn crebachu ac yn colli tir.  Mae ymchwil annibynnol i’r galw am addysg Gymraeg yn dangos canran uwch o rieni yn dymuno addysg Gymraeg i’w plant, na’r canran presennol o ddisgyblion yn y gyfundrefn.
• Byddwn yn gweithio’n strategol gyda’r sector addysg i sicrhau cynllunio digonol o leoedd ysgol ar gyfer y cyflenwad cynyddol hwn o siaradwyr newydd, o gartrefi Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.
• Byddwn hefyd yn cynllunio gyda’r sector addysg sut mae gwella lefel sgiliau pobl ifanc, fel eu bod yn meddu ar sgiliau addas i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Teuluoedd a’r gymuned
• Mae trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn allweddol ar gyfer parhad iaith. Diffyg trosglwyddo iaith fu’n bennaf gyfrifol am leihad nifer siaradwyr y Gymraeg yn ystod yr Ugeinfed Ganrif.  Byddwn yn sicrhau bod ein hadnoddau, boed yn staff neu fel arall, yn gweithredu i atgyfnerthu trosglwyddo iaith lle bynnag y bo modd.


Ieuenctid (cynyddu defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc)
• Rhaid rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg. 
• Mae gwaith ymchwil y Bwrdd a’n gwaith gyda phobl ifanc yn dangos patrymau defnydd iaith cymysg yn ystod llencyndod.
• Bydd y Bwrdd yn cydweithio er mwyn canfod a manteisio ar gyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddylanwadu ar ddefnydd iaith pobl ifanc.  Bydd y Bwrdd yn ceisio cynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol sy’n berthnasol i’w bywydau hwy, er enghraifft, chwaraeon a cherddoriaeth gyfoes.

Gwaith Llorweddol: Ymchwil, Technoleg Gwybodaeth, Y Ganolfan Safoni Termau, Ewrop, Marchnata
• Byddwn yn seilio holl waith y Bwrdd ar ymchwil ffeithiol, gadarn, ac yn gweithio i gynyddu nifer yr ymchwilwyr cymwys ym myd Cynllunio Ieithyddol.
• Er mwyn i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu hiaith mewn peuoedd newydd, bydd y Bwrdd yn gweithio i ddatblygu terminoleg safonol. 
• Mae ymchwil yn dangos bod hyder a hunan gred siaradwyr Cymraeg yn eu sgiliau iaith yn gallu bod yn isel a bod hyn, yn ei dro, yn gallu arwain at ddiffyg trosglwyddiad iaith. Mae angen cymorth ar bobl i fedru mwynhau defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd, ac yn y gweithle. Bydd ein gwaith yn y maes hwn yn darparu termau o safon ac offer priodol iddynt wneud hynny.
• Trwy rwydweithiau Ewropeaidd, byddwn yn rhannu’n profiadau â sefydliadau tramor ac yn hybu gweithredu ar sail arferion da.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd