Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Tim Rheoli 

Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr

Meirion Prys Jones

Yn enedigol o Ben-y-bont, cafodd Meirion ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Aeth yn ei flaen i gwblhau cwrs TAR ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan ennill clod uchel mewn dysgu, pynciau arbennig Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith.

Bu Meirion yn bennaeth adrannau Cymraeg yn Ysgolion Castell Alun a Glan Clwyd, cyn symud i weithio i Adran Addysg Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg fel Uwch Ymgynghorydd y Gymraeg a Phennaeth y Gwasanaethau Cefnogi. Ers 1993, bu'n Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi.

Penodwyd yn Brif Swyddog Adran Addysg a Hyfforddiant y Bwrdd yn 1994, yn Arweinydd y Tîm Cynllunio Ieithyddol yn 2001, ac yn Ddirprwy Brif weithredwr yn 2003.

Daeth yn Brif Weithredwr y Bwrdd yn Ebrill 2004.

 

 

Enid Lewis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Canolog

Enid Lewis

Yn enedigol o Aberaeron, cafodd ei haddysg yn y dref cyn graddio mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Mae’n Gyfrifydd Siartredig ers 1988 ar ôl iddi dderbyn ei hyfforddiant gyda chwmni Touche Ross. Ar ôl gadael Touche Ross, bu’n gweithio i Ddŵr Cymru am chwe mlynedd cyn ymuno â’r Bwrdd ym mis Mai 1997.

Enid sy’n gyfrifol am holl wasanaethau canolog y Bwrdd sy'n cael eu rhannu i dair uned o fewn y Tîm Gwasanaethau Canolog - Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth, Adnoddau Dynol, a Marchnata a Chyfathrebu.

 

 

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Cynlluniau Iaith

Gwenith Price 

Ganed ym Mhwllheli a magwyd yn y Gogledd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy; Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Wedi cyfnod yn gweithio yn y byd addysg, daeth yn swyddog iaith Cyngor Sir Powys ac yn ddiweddarach, yn swyddog polisi corfforaethol yr awdurdod. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith ac yn gadeirydd Rhwydwaith a fu’n flaengar yn hyrwyddo cydweithio rhwng Swyddogion Iaith cyrff cyhoeddus. Symudodd i weithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2003 ac y mae bellach yn Gyfarwyddwr y Tîm Cynlluniau Iaith.

Gwenith sy’n arwain gwaith statudol y Bwrdd o gytuno ac arolygu gweithrediad Cynlluniau Iaith yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol.

 

Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Polisi a Therminoleg

Gwyn Jones

Ganed yn Salford, a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Caernarfon a phrifysgolion Nottingham a Llundain.

Ar ôl gadael y coleg, gweithiodd yn y gwasanaeth sifil yn y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd mewn nifer o adrannau polisi cyn symud ar fenthyg i Fwrdd ymgynghorol yr Iaith Gymraeg ym 1991. Penodwyd i’r Bwrdd statudol yn 1993.

Gwyn sy’n gyfrifol am gwmpasu polisi corfforaethol y Bwrdd, yn ogystal â safoni termau ac enwau lleoedd, data ac ymchwil, grantiau a phrosiectau, a thechnoleg iaith. Ef hefyd yw Rheolwr Risg y Bwrdd.

 

Gari Lewis, Cyfarwyddwr Plant a Phobl Ifanc

 Gari Lewis

Ganed a magwyd yn y Coed Duon a derbyn ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pengam cyn mynd ymlaen i astudio Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac wedyn astudio ar gyfer TAR yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.

Ar ôl cyfnod yn athro ysgol ac yn bennaeth adran am 15 mlynedd, penodwyd yn Swyddog Ymchwil Uwch gyda’r sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil ac Addysg. Yna bu’n gweithio fel ymgynghorydd annibynnol am 8 mlynedd, yn gweithio ar lu o brosiectau’n ymwneud â’r byd addysg a darpariaeth pobl ifanc.

Ymunodd â’r Bwrdd yn 2005 fel Rheolwr Prosiect Addysg Drochi. Penodwyd yn Gyfarwyddwr Plant a Phobl Ifanc yn 2008, ac ef sy’n arwain ar waith y Bwrdd ym maes addysg a phobl ifanc.

 

Ifan Evans, Cyfarwyddwr Sector Preifat a Busnes

Ifan Evans

Daw Ifan o Dregaron yng Ngheredigion. Fe’i addysgwyd yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg yr Iesu Rhydychen cyn dod yn ôl i Geredigion i astudio hanes darlledu yng Nghymru yn Aberystwyth.

Bu'n ddarlithydd prifysgol yn Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Cymru Aberystwyth, cyn cael ei benodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr Rhiannon Cyf. yn 1998.

Enillodd y cwmni nifer o wobrau rhanbarthol a chenedlaethol yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, yn arbennig am ei defnydd blaengar o'r Gymraeg, ac am fuddsoddiad sylweddol i greu canolfan ymwelwyr cyfoes ac amlbwrpas yn Nhregaron. Bu hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmnïau eraill amrywiol, yn cynnwys rhai eiddo, amaeth, hamdden, gweithgynhyrchu, twristiaeth, celfyddydol a datblygu cymunedol, a bu'n Aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2003 a 2007.

Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Sector Preifat a Busnes ym mis Ebrill 2007, ac ef sy’n gyfrifol am gynnig arweiniad strategol yn y maes o hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y Sector Preifat.

 

Sali Wyn Islwyn, Cyfarwyddwr Datblygu Cymunedol

Sali Wyn Islwyn

Yn wreiddiol o Ynystawe yng Nghwm Tawe ac mae’n dal i fyw yn yr un cartref. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, Coleg Prifysgol Bangor a Phrifysgol Goldsmiths yn Llundain. Yn 2000, ar ôl dilyn gyrfa fel telynores ac yn magu plant, dychwelodd i’r brifysgol i ddilyn cwrs mewn rheoli pobl a chyllid.

Bu’n gweithio’n y Cynulliad Cenedlaethol tan iddi gael ei phenodi’n Swyddog Datblygu gyda’r Bwrdd ar gyfer sefydlu Cynllun Gweithredu Iaith yn Rhydaman yn 2002. Daeth yn Rheolwr Rhanbarth y De-orllewin yn 2004, ac yna’n Gyfarwyddwr Tîm Datblygu Cymunedol yn Rhagfyr 2007.

Sali sy’n arwain Tîm y Rhanbarthau sy’n cynnwys y Rheolwyr Rhanbarthol a’u dirprwyon a Swyddogion y Cynlluniau Gweithredu Iaith. Mae gwaith y tîm yn cynnwys rheoli grantiau’r Mentrau Iaith, Merched y Wawr a’r Eisteddfod Genedlaethol. Y tîm sydd â chyfrifoldeb am waith trosglwyddo iaith a ieuenctid y Bwrdd gan gynnwys Cynllun Twf ac am gydlynu gwaith partneriaid y Bwrdd ar lefel genedlaethol, sirol a lleol. Yn ogystal mae’r tîm yn rheoli prosiectau cymunedol y Bwrdd ac yn cynnig cyngor i’r Bwrdd ar faterion yn ymwneud a datblygu cymunedol.

 

Dr Jeremy Evas, Arweinydd Uned Ymchwil, Technoleg Iaith a Grantiau

Dr Jeremy Evas

Yn wreiddiol o Dreherbert yng Nghwm Rhondda, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Treorci, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd.

Wedi graddio yn y Ffrangeg a’r Gymraeg aeth yn ei flaen i ddilyn cwrs PhD mewn cymdeithaseg iaith a chynllunio ieithyddol o dan oruchwyliaeth yr Athro Colin H. Williams.

Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn gyd-awdur ar Y Cynllun Ymchwil Cymunedol a gomisiynodd y Bwrdd yn 1995, a chwblhaodd ei ddoethuriaeth, Rhwystrau ar Lwybr Dwyieithrwydd, ym mis Medi 1999. Yna, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd fel cynorthwy-ydd ymchwil cyn sefydlu’i gwmni ei hun yn 2000 i ymwneud â sawl agwedd ar ieithoedd

Ymunodd â staff y Bwrdd yn 2000, ac ym mis Ebrill 2003 cafodd ei benodi’n Arweinydd yr Uned Ymchwil, Technoleg Iaith a Grantiau. Mae ei brif gyfrifoldebau’n cynnwys Siartr Ewrop ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol, polisi technoleg gwybodaeth ar gyfer y Gymraeg, gwefannau’r Bwrdd, gwaith ymchwil y Bwrdd a’n Prif Gynllun Grantiau.

 

Siân Parry Jones, Cydlynydd Materion Corfforaethol

Sian Parry jones 

Yn enedigol o Ddyffryn Clwyd, derbyniodd Siân ei haddysg yn Ysgol Glan Clwyd ac ym Mhrifysgol Cymru Bangor lle graddiodd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn 1990, cyn gwneud cymhwyster ôl-radd I.P.D.

Rhwng 1991 a 2000, bu’n gweithio yn adran Personél a Hyfforddiant Cyngor Bro Morgannwg, gan ddelio ag agweddau recriwtio a chydraddoldeb ynghyd â darparu hyfforddiant mewnol i staff. Roedd hefyd yn gyfrifol am lunio a datblygu Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor.

Yn 2000, ymunodd Siân â’r Bwrdd gan weithio yn yr adran Sector Cyhoeddus a Gwirfoddol gan gynghori sefydliadau wrth iddynt lunio eu Cynllun Iaith.

Hi bellach sy’n gyfrifol am ysgrifenyddiaeth y Bwrdd, y cysylltiadau rhwng y Cadeirydd, Aelodau’r Bwrdd, y Prif Weithredwr a’r Llywodraeth. Mae’n cadw gorolwg ar waith yr uned farchnata, goruchwylio’r cyswllt â’r wasg, a chymryd cyfrifoldeb ar berfformiad y Bwrdd o ran Buddsoddwyr Mewn Pobl.

 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd