Penodir aelodau'r Bwrdd yn unol â’r drefn a argymhellwyd gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan).
Cafodd Meri Huws ei phenodi'n Gadeirydd y Bwrdd ym mis Awst 2004 a chyn hynny bu'n aelod o'r Bwrdd rhwng 1993 a 1997. Fe'i hailbenodwyd ym mis Ebrill 2007.
Yn enedigol o Gaerfyrddin, derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Abergwaun cyn mynd ymlaen i astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yna i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.
Wedi dychwelyd i Gymru, treuliodd peth amser fel Gweithiwr Cymdeithasol yn Sgubor Goch, Caernarfon, ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg rhwng 1981 a 1983.
Oddi yno aeth i ddarlithio i'r Coleg Normal ym 1984, Prifysgol Casnewydd rhwng 1989 a 1997, cyn symud i Swyddfa Academaidd Prifysgol Dinas Dulyn hyd 1999 ac yna i Brifysgol Bangor lle bu'n Is-Ganghellor. Ers Awst 2009, mae'n ddirprwy Is-Ganghellor [Arloesi, Cymuned a Sgiliau] ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant.
Mae Meri Huws yn Aelod o'r Blaid Lafur.

Mae’r aelodau'n cynrychioli ystod eang o’r sbectrwm gwleidyddol, o gefndir amrywiol, ac yn cynnig arbenigedd a phrofiad perthnasol mewn meysydd o ddiddordeb mawr i’r Bwrdd:
- Cynllunio ieithyddol
- Addysg a hyfforddiant
- Darlledu
- Cyfryngau newydd
- Rheolaeth busnes ac ariannol
- Byd iechyd
--------------------------------------------------------------------------------

NICK BENNETT
Nick Bennett yw Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru. Mae’n Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Ofcom dros Gymru.
--------------------------------------------------------------------------------

OWEN EVANS
Yn wreiddiol o Aberystwyth, Owen Evans yw Cyfarwyddwr Cymru Busnes yn y Gymuned.
--------------------------------------------------------------------------------

HUW JONES
Huw Jones oedd Prif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005. Yn wreiddiol o Gaerdydd ond mae wedi byw a gweithio am nifer o flynyddoedd yng ngogledd-orllewin Cymru cyn cychwyn gyda S4C.
---------------------------------------------------------------------------------

ARUN MIDHA
Penodwyd Arun Midha i'r Bwrdd ym mis Ebrill 2000.
Cafodd ei fagu yn Nhregŵyr ger Abertawe, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Dysgodd Arun Midha Gymraeg yn oedolyn, ac mae'i wraig a'i blant hefyd yn siarad Cymraeg.
Mae'n Gyfarwyddwr Busnes a Chynllunio yn Ysgol Addysg ôl-raddedig Feddygol a Deintyddol, Prifysgol Caerdydd. Bu'n gweithio hefyd i Fanc Lloyds ac Awdurdod Hybu Iechyd Cymru.
Mae Arun Midha yn aelod lleyg o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, yn gyfarwyddwr anweithredol o Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, ac yn Ynad Heddwch yn Llys Ynadon Caerdydd.
-------------------------------------------------------------------------------------

GWYNETH MORUS JONES
Mae Gwyneth Morus Jones yn byw yn Llandegfan, Ynys Môn. Mae wedi gwasanaethu fel Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr a Chadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin.
-------------------------------------------------------------------------------------

MARC PHILLIPS
Penodwyd Marc Phillips i'r Bwrdd ym mis Ebrill 2003.
Mae'n gweithio fel Trefnydd Cenedlaethol Plant mewn Angen ar gyfer y BBC yng Nghymru, yn dilyn cyfnod fel Prif Weithredwr yr elusen Tenovus.
Daw'n wreiddiol o Aberpennar a dysgodd y Gymraeg tra'n ddisgybl ysgol ym Merthyr Tudful.
Erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd.
------------------------------------------------------------------------------------

CATHERINE REES
Catherine Rees yw Cyfarwyddwr Adnoddau Menter a Busnes. Yn wreiddiol o Lanelli mae’n parhau i fyw a gweithio yn yr ardal.
--------------------------------------------------------------------------------
RHIANNON WALTERS
Penodwyd Rhiannon Walters i'r Bwrdd ym mis Ebrill 2000.
Mae'n athrawes Cymraeg ail-iaith i blant ysgolion cynradd yn ardal Sir Gaerfyrddin, ac mae hefyd yn dysgu Cymraeg i oedolion.
Mae'n byw yn Llangadog yn Sir Gaerfyrddin.
Bu'n gadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin, a hi yw dirprwy gadeirydd presennol Menter Bro Dinefwr. Mae'n llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt, ac yn aelod o Bwyllgor Sefydlog yr Eisteddfod Genedlaethol.
--------------------------------------------------------------------------------

COLIN WILLIAMS
Penodwyd Colin Williams i'r Bwrdd ym mis Ebrill 2000.
Mae'n Athro ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac mae hefyd wedi treulio amser yn dysgu mewn prifysgolion yng Nghanada, Lloegr a'r Unol Daleithiau.
Mae'n awdurdod ar gynllunio ieithyddol ac yr oedd yn gyd-awdur Y Cynllun Ymchwil Cymunedol, a gomisiynwyd gan y Bwrdd, ynghyd â thoreth o gyhoeddiadau eraill ar gynllunio ieithyddol.
Bu hefyd yn cynghori llywodraethau yn Ewrop a Chanada ar ddatblygu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.
---------------------------------------------------------------------------------

ELIN WYN
Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Elin Wyn yn parhau i fyw a gweithio yn y ddinas. Yr oedd yn newyddiadurwraig gyda BBC Cymru ac yn Bennaeth swyddfa’r BBC yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Sefydlodd gwmni hyfforddi i ddarparu hyfforddiant newyddiadurol a chyfryngol yn Gymraeg a Saesneg.