Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Hanes y Bwrdd 

Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn hybu a hwyluso defnyddio'r iaith Gymraeg; ei nod yw annogJohn Elfed Jones, Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol nifer cynyddol y siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau beunyddiol. Daw'r angen am y Bwrdd yn sgil dirywiad sylweddol yn nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng diwedd y 19eg ganrif a thrydydd chwarter yr 20fed ganrif.

Er bod Deddf Llysoedd Cymru 1942 a Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 wedi cynnig peth darpariaeth yn y llysoedd a'r sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol, ac er gwaethaf bodolaeth system addysg cyfrwng Cymraeg gynyddol boblogaidd, yn ystod yr 80au, cafwyd pwysau gwleidyddol cynyddol am ragor o gefnogaeth i ddiogelu'r Gymraeg.

Yn 1985, cyflwynwyd cynigion penodol i ddeddfu o blaid y Gymraeg i'r Swyddfa Gymreig gan weithgor o dan Gadeiryddiaeth yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies ac, ar wahân, cyflwynwyd cynigion deddfwriaethol i Dŷ'r Cyffredin fel Mesur o dan y rheol 10-munud gan Dafydd Wigley AS. Er bod Llywodraeth y dydd wedi gwrthod y cynigion hyn, fe gydnabu ddymuniad cyffredinol i ddiogelu dyfodol y Gymraeg.

O ganlyniad, fe sefydlodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Peter Walker, weithgor ymgynghorol o dan Gadeiryddiaeth Wyn Roberts, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig, er mwyn cynghori pa gamau yr oedd angen eu cymryd, os o gwbl. Ei brif argymhelliad oedd y dylid creu Bwrdd Iaith Gymraeg ymgynghorol, anstatudol, er mwyn cydio yn y dasg o hybu defnydd o'r Gymraeg.

Dafydd Elis-Thomas, Cadeirydd cyntaf y BwrddDerbyniwyd y cynnig hwn, ac ym mis Gorffennaf 1988, sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg, â John Elfed Jones yn Gadeirydd a John Walter Jones yn gyfarwyddwr. Secondiwyd pedwar aelod arall o staff i’r Bwrdd o'r Swyddfa Gymreig.

Roedd dyletswyddau'r Bwrdd yn cynnwys cynghori'r Llywodraeth ar faterion a oedd angen gweithredu gweinyddol neu ddeddfwriaethol yn eu cylch a hybu defnydd o’r Gymraeg yn y sector cyhoeddus, yn y sector preifat ac ymhlith cyrff y sector gwirfoddol.

Yn 1989, fe gyhoeddodd y Bwrdd Yr Iaith Gymraeg: Strategaeth ar gyfer y Dyfodol, a osododd, am y tro cyntaf erioed, gynigion manwl ar gyfer hybu'r Gymraeg a chynyddu'r defnydd ohoni (gweler o dan 'cyhoeddiadau' ar ochr dde'r dudalen). Yn sgil hyn, cyhoeddwyd dwy set o ganllawiau gwirfoddol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru.

Roedd y Bwrdd Ymgynghorol bob tro yn ceisio cadw golwg ar yr hyn a oedd yn ymarferol, a'r hyn y gellid ei gyflawni. Gwelodd bwrpas gwirioneddol mewn argymell mesurau yr oedd ganddynt gyfle rhesymol o ddod yn gyfraith ac o wneud cyfraniad sylweddol tuag at amddiffyn yr iaRhodri Williamsith a gwella ei defnydd.

I'r perwyl hwn, cynullodd y Bwrdd Ymgynghorol sawl gweithgor, gan gynnwys gweithgor deddfwriaeth. Gwaith y gweithgor hwn, o dan gadeiryddiaeth Winston Roddick CF, a arweiniodd y Bwrdd i argymell yn 1991 y dylai'r Llywodraeth gyflwyno Deddf Iaith newydd i’w seilio ar yr egwyddor bod dilysrwydd cyfartal rhwng y Gymraeg a’r Saesneg — a bod gan unigolion hawl i dderbyn gwasanaethau yn y sector cyhoeddus yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gweler papurau'r Bwrdd Ymgynghorol ar ochr dde'r dudalen hon. Yn y pen draw, fe dderbyniodd y Llywodraeth y ddadl o blaid deddfu a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 1993. Creodd y Ddeddf Fwrdd Iaith Gymraeg Statudol.

Penodwyd yr Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy yn gadeirydd cyntaf a John Walter Jones yn Brif Weithredwr. Mae gan y Bwrdd bwerau statudol i fynnu bod cyrff cyhoeddus yn paratoi Cynlluniau Iaith, sy'n manylu sut y byddant yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. I'r perwyl hwn paratôdd y Bwrdd Cynlluniau Iaith Gymraeg: eu paratoi a'u cyflwyno yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg a'u cymeradwyo gan y Senedd (hefyd ar gael o dan 'cyhoeddiadau' ar ochr dde'r dudalen).

    

 

Erbyn 2002, roedd dros 200 o gynlluniau wedi eu cymeradwyo gan y Bwrdd. Yn ogystal, mae gan y Bwrdd y pŵer i fynnu bod Awdurdodau Addysg Lleol yn paratoi Cynlluniau Addysg Gymraeg, sy’n nodi sut y bydd addysg Gymraeg yn cael ei darparJohn Walter Jones, Prif Weithredwr Cyntaf y Bwrdd.u yn eu hardaloedd. Mae'r gofrestr ddiweddaraf o gynlluniau iaith ar gael ar ochr dde'r dudalen hon.

Mae'r Bwrdd yn mynd i'r afael â'i waith mewn dull ymarferol, drwy bartneriaethau, gan geisio annog dymuniad i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae O’n Gwirfodd, canllawiau i'r sector gwirfoddol ddefnyddio'r Gymraeg a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng y bwrdd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Defnyddio'r Gymraeg mewn Busnes yn ddwy enghraifft hyd yn hyn o'r Bwrdd yn darparu gwybodaeth greadigol i ddarpar bartneriaid.

Dechreuodd Rhodri Williams fel aelod o'r Bwrdd ar Rhagfyr 21, 1996. Cafodd ei benodi yn Gadeirydd ar Ionawr 21 1999. Ei ddiwrnod olaf gyda'r Bwrdd oedd Awst 31 2004. Ei olynydd Meri Huws, Cadeirydd y Bwrddyw Meri Huws a ddechreuodd yn ei gwaith fis Awst 2004. Mae bellach yn bennaeth yr adran Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru Bangor.

Heblaw am ei swyddogaeth statudol benodol, mae gan y Bwrdd ddyletswydd cyffredinol i hybu defnydd o'r Gymraeg. Arweiniodd hyn at gyhoeddi Strategaeth ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn 1996, a nododd agenda ar gyfer cynllunio ieithyddol holistaidd, wrth adeiladu ar ddull partneriaeth y Bwrdd.

Mae'r Strategaeth yn adlewyrchu’r ffaith nad rhai ieithyddol yw'r holl heriau sy'n wynebu iaith. Mae iaith yn cael ei dylanwadu gan elfennau gwleidyddol, economaidd, a seicolegol, ymhlith eraill. Felly, rhaid i'r cyfrifoldeb am hybu iaith fod yn drawsbynciol — a rhaid i sefydliadau eraill, y mae eu prif gylch gorchwyl yn mynd y tu hwnt i hybu'r Gymraeg, hefyd gymryd cyfrifoldeb am ei dyfodol.

Mae'r Strategaeth hon yn nodi pedair prif her o ran hybu iaith:

  • Cynyddu niferoedd siaradwyr y Gymraeg
  • Darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith
  • Newid arferion defnyddio iaith, ac annog pobl i fanteisio ar y cyfleoedd a ddarperir
  • Atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith gymunedol

Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr y BwrddPwysleisiwyd thema cynllunio ieithyddol holistaidd yn holl weithgareddau'r Bwrdd, felly hefyd yr angen i gynnwys y Gymraeg yn yr agenda Cyfle Cyfartal. Yn ogystal, un o brif nodau'r bwrdd fu tynnu'r iaith allan o wleidyddiaeth, ac annog trafodaeth aeddfed ynghylch ei hyrwyddo. Mae ei strategaethau a'i weithgareddau wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol a chymeradwyaeth Adolygiad annibynnol o'i weithgareddau a gomisiynwyd gan y Cynulliad yn 2001.

Ymddeolodd John Walter Jones ddiwedd Mawrth 2004. Penodwyd ei ddirprwy, Meirion Prys Jones, yn olynydd iddo. Cychwynnodd ar ei waith ddechrau Ebrill 2004.

Ym mis Awst 2005, fe gyhoeddodd y Bwrdd Dyfodol y Gymraeg: Cynllun Strategol. Y ddogfen hon sy'n llywio ein gweithgareddau cyfredol. Fel yr holl ddogfennau y cyfeiriwyd atynt ar y dudalen hon, mae ar gael o dan 'cyhoeddiadau' ar ochr dde'r dudalen hon.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.