NOD
- Gweithio er lles a dyfodol yr iaith Gymraeg
GWELEDIGAETH BWRDD YR IAITH GYMRAEG
Rydym ni am weld:
- Cymru cwbl ddwyieithog lle mae’r Gymraeg a Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.
- Cynydd yn niferoedd y bobl sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg ar bob achlysur.
- Pobl Cymru yn parhau i ymfalchïo yn y Gymraeg.
- Siaradwyr Cymraeg yn trosglwyddo’r iaith o genhedlaeth i genhedlaeth a phrosesau hwylus i ddysgwyr ddysgu’r Gymraeg.
- Y Bwrdd yn parhau i arloesi, arbenigo ac arwain ym maes cynllunio ieithyddol yng Nghymru ac yn fyd-eang, ac yn seilio’i weithgareddau ar dystiolaeth.
GWERTHOEDD BWRDD YR IAITH GYMRAEG
Wrth weithio er lles a dyfodol yr iaith Gymraeg, mae’r Bwrdd yn sefydliad sy’n:
- Gweithio’n broffesiynol ac i safon uchel
- Teg a chwrtais gan roi cyfle cyfartal i bawb
- Annog cydweithio a gweithio mewn partneriaeth
- Dangos parch at farn a safbwyntiau pobl a sefydliadau eraill
- Parod i wrando
- Dysgu’n barhaus
- Gweithio’n agored ac yn dryloyw
- Gwerthfawrogi a pharchu ein staff
- Cymryd gofal o’r amgylchedd