Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Cyfarfodydd y Bwrdd 

Aelodau'r BwrddMae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru.

Mae’r cyfarfodydd yn agored, ac mae croeso i unrhyw un o’r cyhoedd eu mynychu a gofyn cwestiynau i’r Cadeirydd a’r aelodau.

Cyhoeddir manylion pob cyfarfod, gan gynnwys amseriad, lleoliad a’r materion ar yr agenda, ymlaen llaw, ar y wefan hon ac yn y wasg.

Mae’r papurau perthnasol ar gael i’r cyhoedd ac i’r wasg ar ddechrau pob cyfarfod ac yn llyfrgell electronig y wefan hon (gweler isod). Hefyd, gellir llwytho papurau o gyfarfodydd blaenorol, gan fod y wefan yn cynnwys archif llawn o bapurau’r Bwrdd o'r dechrau hyd heddiw.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.