Rydym am i'n gwefan fod mor hygyrch â phosibl ac rydym yn ceisio cydymffurfio fan lleiaf â lefel hygyrchedd A-ddwbl fel a nodwyd gan Fenter Hygyrchedd y We. Mae a wnelo hyn hefyd â gweithredu sawl pwynt gwirio Blaenoriaeth 3 sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y wefan yn cydymffurfio â safon "AAA".
Mae canllawiau'r WAI hefyd yn sail i safonau Sefydliad Brenhinol y Deillion a'i ymgyrch "See it right".
Ein nod yw cydymffurfio â'r Deddf Camwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 o ran darparu gwasanaethau ar-lein, fel y mae'r Comisiwn Hawliau'r Anabledd yn gofyn amdano. Mae'r Ddeddf hon yn nodi'n ddiamwys bod yn rhaid i wefannau'r sector cyhoeddus a phreifat fod yn hygyrch.
Yn ogystal, datblygwyd y wefan hon i ddiwallu anghenion y Fframwaith Ansawdd ar gyfer Dylunio Gwefannau Llywodraeth y D.U. a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r E-gennad.
Cofiwch gysylltu â ni os byddwch am roi adborth fel bo modd i ni barhau i wella hygyrchedd y wefan hon.
Nodweddion Hygyrchedd
- Ysgrifennir dolenni i fod yn synhwyrol o'u darllen allan o gyd-destun.
- Mae gan bob delwedd yn y wefan hon ddisgrifiad testun cyfatebol.
- Defnyddiwyd taflenni arddull rhaeadrol ar gyfer cynllun a chyflwyniad.
- Lluniwyd pob tudalen fel bo modd ei darllen heb daflenni arddull.
- Mae'r wefan hon yn defnyddio meintiau ffont perthynol er mwyn galluogi'r defnyddiwr i nodi "maint testun" mewn rhaglenni pori sy'n defnyddio sgrin.
- Mae pob ffurflen yn defnyddio dilyniant Tab rhesymegol.
- Mae labeli wedi eu cysylltu â meysydd mewn ffurflenni HTML.
- Mae map o'r wefan wedi ei gynnwys er mwyn darparu gwybodaeth am gynllun cyffredinol y wefan.
- Mae llwybrau bysellfwrdd byr wedi eu darparu er mwyn cynorthwyo gwelywio (gweler isod).
Llwybrau Bysellfwrdd Byr
Er mwyn gwella hygyrchedd i ddefnyddwyr nad ydynt yn defnyddio llygoden, rydym wedi integreiddio llwybrau bysellfwrdd byr i'n gwefan. Mae'r rhain yn cynnwys:
S – Sgipio'r Llywio
1 – Hafan
2 – Newyddion
3 – Map o'r wefan
4 – Chwilio
5 – Cwestiynau Cyffredin
8 – Polisi Preifatrwydd
9 – Cysylltwch â ni
0 – Hygyrchedd
Er mwyn defnyddio'r bysellau hygyrchedd hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:
Windows: gwasgwch 'Alt' + 'Bysell Hygyrchedd' ( + 'Return' ar gyfer Internet Explorer).
Apple Mac: gwasgwch 'Control' + 'Bysell Hygyrchedd'.
Yn anffodus, nid yw fersiwn cyfredol Opera yn cefnogi'r nodwedd hon.
Cyfeiriadau Hygyrchedd
- Deddf Camwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995
- W3C Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 1.0
Rhaglenni Pori
- Microsoft - Internet Explorer
- Mozilla - Firefox
- Apple - Safari
Technoleg Ymaddasol
- JAWS: rhaglen darllen sgrin
- Lynx: rhaglen bori testun