Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Deddfau Iaith 

Llywodraeth Cynulliad CymruDeddf Llysoedd Cymru 1942 - Rhoi caniatâd cyfyngedig i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llys.


Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 – rhoi’r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ymhellach yn y llysoedd, a sicrhau cyfle i'w defnyddio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.


Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 - rhoi'r Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mewn termau syml mae'r Ddeddf yn nodi tri pheth:


1. gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru
2. rhoi hawl llwyr i siaradwyr Cymraeg i defnyddio'r iaith yn y llys
3. sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i arolygu cyflawni'r addewidion hyn ac i hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r iaith Gymraeg

 

Mesur Arfaethedig y Gymraeg 2010


Yn nechrau 2010 llwyddwyd i basio’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ar yr iaith Gymraeg. Golyga hyn fod gan y Cynulliad am y tro cyntaf yr hawl i ddeddfu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg.


Cafodd Mesur Arfaethedig y Gymraeg ei gyhoeddi ar 4 Mawrth 2010. Yn fras, mae’r Mesur yn seiliedig ar ymrwymiadau polisi llywodraeth glymblaid Cymru’n Un, sef:

1. cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg

2. sefydlu Comisiynydd Iaith 

3. creu hawliau i siaradwyr Cymraeg.

I ddarllen crynodeb byr o’r Mesur Arfaethedig a’i daith drwy bwyllgorau’r Cynulliad, ewch i Mesur Iaith - be sy'n digwydd . 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd