Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Sut i wneud cwyn 

1. Cwynwch wrth y corff

Cyflwynwch eich cwyn i’r corff cyn gynted ag y gallwch, a rhowch amser rhesymol i’r corff ymateb.

Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb rydych wedi’i gael gan y corff, neu os nad ydych yn derbyn ateb o fewn cyfnod rhesymol, gallwch ofyn i ni ymchwilio i’r mater ar eich rhan.

* Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fyddwch eisiau cwyno wrth y corff dan sylw. Gallwch gysylltu gyda’r Bwrdd yn uniongyrchol i drafod eich cwyn.

 

2. Cyflwyno eich cwyn i’r Bwrdd

Cyflwynwch eich cwyn i ni cyn gynted ag y gallwch, ac o fewn 12 mis fan bellaf. Ni allwn gynnal ymchwiliad statudol yn sgil cwyn i rywbeth ddigwyddodd dros 12 mis yn ôl, er gallwn drafod y gŵyn gyda’r corff dan sylw.

Wrth gyflwyno eich cwyn i ni, darparwch gopi o unrhyw lythyrau neu ddogfennau perthnasol.

 

Darllenwch ‘Beth fydd y Bwrdd yn ei wneud gyda’m cwyn?’ i weld y cam nesaf.

 

 

< Nôl i brif tudalen cwyno

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd