Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth
Darllenwch y dudalen

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Termau  

Mae’n bwysig bod termau ar gael yn Gymraeg er mwyn hwyluso defnyddio’r iaith ym mhob rhan o fywyd.

Mae’r Bwrdd yn gweithio yn y maes safoni termau ers ei sefydlu. Er mwyn hwyluso’r gwaith mae’r Bwrdd wedi casglu tîm o arbenigwyr iaith, y Tîm Safoni Termau, ac mae’n ymgynghori ag arbenigwyr pwnc wrth ymgymryd â phrosiectau mewn meysydd penodol. Datblygwyd Canllawiau hefyd i gynorthwyo’r Bwrdd ac eraill i safoni termau Cymraeg.

Gallwch ddarllen y Canllawiau Safoni Termau drwy glicio yma.

Bydd y Bwrdd yn cyhoeddi y termau y mae’n eu safoni yn y Gronfa Genedlaethol o Dermau neu ar ffurf pdf. Ceir dolenni at y rhain ar ochr dde’r dudalen.

Mae’r cyrff canlynol hefyd yn gweithio yn y maes termau. Cewch ddolenni at eu cronfeydd data ar ochr dde’r dudalen. Maent ar gael i’w defnyddio am ddim:

  • Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru [Term Cymru]
  • Termau Addysg hyd at 16 gan ACCAC [Y Termiadur]
  • Termau a safonwyd gan Ganolfan Safoni Termau Prifysgol Bangor [Y Porth Termau]
  • Cofiwch bod geiriaduron a rhestrau termau papur eraill hefyd ar gael i’ch cynorthwyo i ddefnyddio’r Gymraeg. Ceir rhestr o rai defnyddiol ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (dolen ar y dde).

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd |