Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth
Darllenwch y dudalen

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Archebwch eich nwyddau Iaith Gwaith am ddim! 

Beth yw Iaith Gwaith?

Bathodyn Iaith GwaithMae ein nwyddau Iaith Gwaith yn hyrwyddo gwasanaeth ddwyieithog.

Mae’r bathodyn yn cael ei wisgo gan staff sy’n delio’n uniongyrchol â’r cyhoedd, ac yn ffordd syml o ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Os ydych yn fusnes, sefydliad neu gwmni, ac mae gennych staff sy’n siarad Cymraeg, dylech ystyried archebu bathodynnau ar eu cyfer – mae’r cyfan am ddim ac mae llawer o fanteision o’i defnyddio.

Manteision nwyddau Iaith Gwaith

  • Helpu cwsmeriaid i adnabod staff Cymraeg
  • Cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid yn eu dewis iaith yn syth – a hynny yn rhad ac am ddim
  • Dangos eich bod yn adnabod yr angen a manteision cyflogi staff dwyieithog, a’u bod yn ased i’r busnes
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu Cymraeg eich staff

Mae degau o filoedd o'r bathodynnau wedi cael eu dosbarthu i fusnesau, siopau, amgueddfeydd, tafarndai, ymddiriedolaethau iechyd, cynghorau sir a llawer iawn mwy o sefydliadau.

Archebu

Porwch drwy’r pecynnau isod, yna llenwch y ffurflen gan nodi y nifer sydd ei angen arnoch a chliciwch ar y botwm ‘Archebu’ ar waelod y dudalen.

*  Noder nad ydym yn anfon nwyddau i gyfeiriadau tu allan i Gymru.

 Gallwch hefyd dderbyn fersiwn electroneg drwy dde-glicio ar y delweddau isod:

 

     

 

 

 

 

                                                                       Llofnod e-bost Iaith Gwaith

 

 Poster Iaith Gwaith (cliciwch arno i'w lawrlwytho)

 

Pecyn Blasu

Yn gynwysiedig: 1 bathodyn Cymraeg

                        1 poster Iaith Gwaith

                        

Pecyn 10

Yn gynwysiedig: 10 bathodyn Cymraeg                        

                         5 poster Iaith Gwaith

                        

Pecyn 25

Yn gynwysiedig: 25 bathodyn Cymraeg

                         5 poster Iaith Gwaith

 

 

* Gwybodaeth angenrheidiol

*

*

*


*




*

*

*

*

*

*




Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd |