Beth yw Iaith Gwaith?
Mae ein nwyddau Iaith Gwaith yn hyrwyddo gwasanaeth ddwyieithog.
Mae’r bathodyn yn cael ei wisgo gan staff sy’n delio’n uniongyrchol â’r cyhoedd, ac yn ffordd syml o ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Os ydych yn fusnes, sefydliad neu gwmni, ac mae gennych staff sy’n siarad Cymraeg, dylech ystyried archebu bathodynnau ar eu cyfer – mae’r cyfan am ddim ac mae llawer o fanteision o’i defnyddio. Dyma rai ohonynt:
• Helpu cwsmeriaid i adnabod staff Cymraeg
• Cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid yn eu dewis iaith yn syth – a hynny yn rhad ac am ddim
• Dangos eich bod yn adnabod yr angen a manteision cyflogi staff dwyieithog, a’u bod yn ased i’r busnes
• Datblygu sgiliau cyfathrebu Cymraeg eich staff
Mae degau o filoedd o'r bathodynnau wedi cael eu dosbarthu i fusnesau, siopau, amgueddfeydd, tafarndai, ymddiriedolaethau iechyd, cynghorau sir a llawer iawn mwy o sefydliadau.
Archebu
Porwch drwy’r pecynnau isod, yna llenwch y ffurflen gan nodi y nifer sydd ei angen arnoch a chliciwch ar y botwm ‘Archebu’ ar waelod y dudalen.
* Noder nad ydym yn anfon nwyddau i gyfeiriadau tu allan i Gymru.
*Rydym yn ymaros bathodynnau ar hyn o bryd. Dewch yn ôl atom maes o law.
Pecyn Blasu
Yn gynwysiedig: 1 bathodyn 'Cymraeg'
1 poster - Hapus i siarad Cymraeg
Pecyn 10
Yn gynwysiedig: 10 bathodyn Cymraeg
5 poster - Hapus i siarad Cymraeg
Pecyn 25
Yn gynwysiedig: 25 bathodyn Cymraeg
5 poster - Hapus i siarad Cymraeg
Gallwch hefyd dderbyn fersiwn electroneg drwy dde-glicio ar delweddau isod:

Logo bathodyn Iaith Gwaith Logo E-bost Iaith Gwaith